Bydd CLlLC hefyd yn darparu cefnogaeth gwelliant wedi’i thargedu i Gynghorau pan fo angen er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau neu argymhellion a nodwyd trwy hunanasesiad neu heriau cyfoedion, asesiad panel neu argymhellion gan archwiliad a/neu gyrff rheoleiddio.
Fe allai’r gefnogaeth hon fod yn gymysgedd o her a chefnogaeth cyfoedion neu gapasiti neu arbenigedd allanol, ychwanegol yn y tymor byr. Bydd y gefnogaeth hon yn cael ei rhoi yn ddigon cynnar i atal heriau rhag gwaethygu ar gais awdurdod neu pan fydd asesiadau allanol yn adnabod pryder sylweddol.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cymorth, cysylltwch â Jo Hendy:
Gwelliant@wlga.gov.uk