Dyddiad Cau: Dydd Sul 2 Ebrill 2023
Dyddiad Cyfweliad: TBC
Cyflog: Gradd 5 – SCP 33 – 41 (£39,493- £47,573)
Tymor: Cynigir y swydd ar sail tymor penodol tan 31 Mawrth 2024 naill ai drwy secondiad neu gontract tymor penodol.
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Ydi
Ynglŷn â’r Swydd
Wedi’i leoli o fewn y maes Addysg, Dysgu Gydol Oes, Cyfarwyddiaeth Diwylliant a Hamdden o fewn CLlLC, bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Pennaeth Addysg wrth ddarparu cyngor arbenigol ar bolisïau a chefnogaeth ar bob agwedd o Gwricwlwm Cymru a strategaethau ac ymarferion Cymraeg mewn Addysg.
Bydd y rôl yn gofyn am wybodaeth dda a dealltwriaeth fanwl o ddarpariaeth addysg a dysgu gydol oes yng Nghymru.
Bydd deiliad y swydd yn gyswllt allweddol i CLlLC ar feysydd polisïau sy’n gorwedd o fewn cylch gwaith y swydd, gan gynnwys diwygio’r cwricwlwm, darpariaeth ôl 16, cymwysterau a pherfformiad, yn ogystal â gwelliant ac addysgeg.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Sharon Davies, Pennaeth Addysg ar 07917275203.
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Sul 19 Mawrth 2023 i :
recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Microsoft Teams ar Ddydd Iau 30 Mawrth 2023.
Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.