Rheoliadau Draenio Cynaliadwy

Bydd newid sylweddol i ofynion draenio yn cael effaith ar ddatblygiadau newydd o fis Ionawr 2019

O 7 Ionawr 2019 bydd angen systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac un tŷ neu lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy i reoli dŵr wyneb ar y safle. Rhaid i systemau draenio fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau gofynnol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) cyn y bydd gwaith adeiladu’n dechrau. Bydd dyletswydd ar CCS i fabwysiadu systemau sy’n cydymffurfio, cyhyd a’i fod wedi ei adeiladu ac yn gweithredu yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyaeth CCS.

Pa ddeddfwriaeth ydym ni’n cyfeirio ati?

Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd i gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Cyhoeddwyd y Safonau Statudol gan Lywodraeth Cymru ar 15 Hydref 2018, yn ogystal â'r Offerynau Statudol, sydd i weld yma: 

  • Safonau Statudol / Offerynau Statudol - Llywodraeth Cymru - Gweld yma
  • Rhagor o wybodaeth ar gael o CIRIA 753: Llawlyfr SuDs - Gweld yma 

Mae Atodlen 3 DRhLlD 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cyd-fynd ag adran 17 yr Atodlen. I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, ewch i:

  • Atodlen 3 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010 Gweld yma
​Beth yn union yw CCS?

Mae’r CCS yn swyddogaeth statudol a gynigir gan yr awdurdod lleol i sicrhau fod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac un tŷ neu lle bod yr arwynebedd adeiladu yn 100m2 wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Sefydlwyd yr CCS i:

  • Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae goblygiadau draenio i’r gwaith adeiladau, a
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17 Atodlen 3 (DRhLlD).

Mae hefyd gan y CCS bwerau arolygu a gorfodi ac mae’n defnyddio pwerau disgresiwn i gynnig cyngor cyn ymgeisio anstatudol.

Beth mae’n ei olygu ar gyfer fy natblygiad?

Os ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu'n unigolyn sy'n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy nac un tŷ neu arwynebedd adeiladu o 100m2 neu ragor mae hefyd rhaid i chi geisio cymeradwyaeth CCS ynghyd â chymeradwyaeth gynllunio. Ni fydd hawl gennych i ddechrau adeiladu nes rhoddir y 2 ganiatâd.

Ni fydd yn ofynnol i safleoedd a datblygiadau presennol sydd wedi sicrhau caniatâd cynllunio neu yr ystyrir eu bod wedi derbyn caniatâd (boed yn ddarostyngedig i amodau fel mater a gadwyd yn ôl) neu y derbyniwyd cais dilys ar ei gyfer ond nad yw wedi ei bennu erbyn 7 Ionawr 2019, wneud cais am gymeradwyaeth CCS.

Serch hynny, bydd yn dal angen cymeradwyaeth CCS os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amod o ran mater a gadwyd yn ôl ac nad yw'r cais i gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl wedi ei wneud cyn 7 Ionawr 2010.

Mae yna rai eithriadau:

  • Mae gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio wedi ei eithrio o’r gofyniad am gymeradwyaeth CCS, nid yw’r eithriad yn berthnasol lle mae’r gwaith adeiladu ag arwynebedd o 100 m2 neu ragor
  • Boed angen caniatâd cynllunio ai peidio, eithriwyd gwaith adeiladu sy'n cynnwys adeiladu un annedd, neu fath arall o adeilad, sydd ag arwynebedd o lai na 100m2, o’r gofyniad i sicrhau cymeradwyaeth
Sut ydw i’n ceisio cymeradwyaeth CCS?

Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio am dâl i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn ar wahân i’r gwasanaeth cyn ymgeisio, felly bydd angen i chi ymgysylltu’n fuan â’r gwasanaethau perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu cyfyngu oedi a lleihau costau yn y tymor hir.  

Rhaid cyflwyno ceisiadau llawn i’r CCS i’w dilysu a rhaid iddynt gynnwys:

  • cynllun yn manylu ar yr ardal adeiladu a graddau’r system ddraenio
  • gwybodaeth o ran y modd y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â Safonau SDCau
  • gwybodaeth y gofynnwyd amdani yn rhestr gyfeirio’r ffurflen gais
  • y ffi ymgeisio briodol

Bydd 7 wythnos gan yr CCS i bennu ceisiadau ac eithrio’r rhai lle mae angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, lle bydd ganddo 12 wythnos. Bydd ffurflenni cais a dogfennau cysylltiedig ar gael gan eich CCS lleol a bydd angen i bob cais gael eu gwneud i’r CCS perthnasol.

Sut ydw i’n cysylltu gyda fy CCS?

Y dyddiad cychwyn ar gyfer y gofyniad am gymeradwyaeth yw 7 Ionawr 2019 ac rydym ar hyn o bryd yn sefydlu ein gwasanaeth newydd i ymdrin â’ch ceisiadau a gwefan bwrpasol i gynnig gwybodaeth ychwanegol i chi pan fydd ar gael. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y broses newydd hon cysylltwch â ni.


Dolenni: SuDs Wales - Sustainable Drainage Systems / susdrain


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jean-Francois Dulong

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30