Un o rolau Carfan Cyflogaeth WLGA yw helpu cynghorau i:
- darogan ac ateb heriau ynglŷn â’r gweithlu
- meithrin cefnogaeth y gweithlu ynglŷn â ffyrdd newydd o weithio
- denu, datblygu a chadw pobl ddawnus
- creu gweithlu medrus, cynaladwy ac arloesol, cryf ei gymhelliant, i ddiwallu anghenion cyfnewidiol
Mae WLGA yn gwneud hynny trwy:
- cydweithio ag awdurdodau lleol i ddeall a datblygu medrau a gallu eu gweithwyr
- helpu awdurdodau lleol i hwyluso gwelliannau ac ymateb i heriau economaidd a chyfyngiadau ariannol cynyddol
- gweithio ar ran byd llywodraeth leol ac ar y cyd â phartneriaid eraill i ofalu bod mentrau, polisïau a strategaethau newydd yn ystyried anghenion yr awdurdodau o ran gweithlu medrus a chynaladwy
- gweithredu’n ddolen gyswllt strategol â chynghorau sgiliau a chyrff eraill pob sector i ymgysylltu â mentrau mae gwahanol sectorau’n eu harwain ym maes datblygu’r gweithlu
At hynny, mae rôl allweddol i fyd llywodraeth leol ynglŷn â helpu mentrau ehangach sy’n diwallu ei anghenion ym maes cyflogaeth yn ogystal â rhai’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu, gan gynnwys:
- cymorth ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu megis prentisiaethau, lleoli mewn gwaith a chynlluniau i raddedigion
- camau penodol i ymgysylltu â’r rhai sydd heb weithio, astudio, cael eu hyfforddi na chyfrannu at yr economi, a chynnig cyfleon iddynt
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jonathan Lloyd