CLILC

 

Uwch Swyddog Polisi (Datblygiad ND)

Dyddiad Cau:              Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025

Dyddiad Cyfweliad:    wythnos dechrau 15 Rhagfyr 2025


Cyflog:                   Gradd 5 (SCP 37 – 41) £48,226.39 - £52,413.22

Tymor:                    Dros Dro / Secondiad tan 31 Mawrth 2027


Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Ydi

Cymraeg yn hanfodol:                                Na Dymunol yn Unig am y rol hon


Ynglŷn â’r Swydd                                

Prif bwrpas y rôl hon fydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol ar draws Iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, i helpu i ysgogi'r broses o weithredu'r Cod Ymarfer ar gyfer Awtistiaeth sy'n eistedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru a Deddf y GIG.

Wedi'i chynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd y swydd hon yn rhan o dîm cymorth a datblygu integredig unigryw. Bydd y rôl yn gweithio gyda'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu seilwaith i gyflawni eu cynlluniau cyflawni awtistiaeth lleol. Bydd deiliad y swydd yn bwynt cyswllt allweddol i ystod eang o randdeiliaid ar lefel genedlaethol a bydd yn cydlynu gwybodaeth rhwng y rhanbarthau a'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a bydd yn  gyrru'r gwaith o weithredu'r Cod Ymarfer a'r agenda ND Cenedlaethol ac  yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ofynion statudol y Cod Ymarfer. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r gweithlu, a bydd disgwyl iddynt weithio'n agos gydag arweinwyr a thimau'r gweithlu yn yr Awdurdod Lleol a byrddau Iechyd ledled Cymru.

Bydd y swydd hon yn cefnogi ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru gydag unrhyw werthusiad neu ddiweddariadau i'r Cod Ymarfer.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn hyrwyddo ac yn rhannu adnoddau ND Cymru ledled Cymru ac yn ymgysylltu ac yn cefnogi arweinwyr Awtistiaeth/ND lleol a grwpiau rhanddeiliaid lleol. Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol wrth sicrhau bod llais pobl niwroamrywiol wedi'i ymgorffori yn y gwaith hwn.

Bydd y rôl yn rheoli ystod o berthnasoedd a chyfathrebu i gefnogi gweithredu'r Cod a hyrwyddo'r agenda integreiddio.

Bydd y rôl yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol lefel uwch ar draws Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol, mudiadau gwirfoddol, pobl niwroamrywiol a rhieni/gofalwyr a bydd ganddo rôl mewn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth ar draws y grwpiau hyn.

Bydd y rôl yn cyfrannu at reoli tîm trwy reoli llwyth gwaith y Swyddog Gweinyddol.


Gwnewch gais Rŵan!

I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â 

Sian Lewis, Pennaeth Gwasanaeth Niwrowahaniaeth Cymru ar sian.lewis@wlga.gov.uk

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Microsoft Teams  Microsoft Teams neu'n bersonol yn dibynnu ar eich dewis.               

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.


 

https://www.wlga.cymru/senior-policy-officer-ND-Development