Un o elfennau cynhenid trefn effeithiol ar gyfer rheoli gwasanaethau a’r trefniadau ehangach ar gyfer cynllunio’n strategol a rheoli cyflawniad yw cloriannu’r hyn mae’r cyngor a’i wasanaethau wedi’i gyflawni yn ôl amcanion strategol a gweithredol gan nodi gwelliannau/peryglon a’r goblygiadau i adnoddau.
Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae WLGA wedi rhoi cymorth penodol sylweddol i awdurdodau i’w helpu i lunio dulliau hunanasesu. Er nad yw’r cymorth hwnnw ar gael mwyach o ganlyniad i Lywodraeth Cymru ddiddymu ei chymhorthdal ar gyfer gwella ddiwedd 2014-15, mae amryw ganllawiau ac adnoddau ar gael o hyd.
Mae’r Papur Gwyn gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2015, ‘Grym i Bobl Leol’, wedi hyrwyddo hunanasesu yn nodwedd allweddol o hunanwella a llywodraethu’n dda, ac mae disgwyl y bydd hunanasesu’n rhan gynhenid o raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio trefniadau gwella ym maes llywodraeth leol.
Does dim ffordd hunanasesu safonol ar gyfer gwasanaethau a swyddogaethau maes llywodraeth leol. Ddylen ni ddim cyflwyno un chwaith, am fod angen i drefniadau a phrosesau lleol adlewyrchu amgylchiadau a blaenoriaethau’r fro ac aeddfedrwydd y sefydliad.
Mae mwy a mwy o bwyslais ar ansawdd hunanasesu lleol bellach, fodd bynnag, ac mae Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru ac Estyn wedi rhoi llawer o sylw i amryw ffyrdd y cynghorau lleol o’u hasesu eu hunain a chyflwyno adroddiadau am ganlyniadau’r asesu.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford