CLILC

 

Adnoddau - Caffael

 

Pecyn Cymorth Caffael Cynaliadwy Awdurdodau Lleol

Mae’r Pecyn Cymorth hwn wedi ei ddatblygu i gefnogi awdurdodau lleol i ymgorffori datgarboneiddio a chynaliadwyedd ar gyfer caffael ar bob lefel. 


Adroddiad ‘Cefnogi Awdurdodau Lleol gyda datgarboneiddio allyriadau o nwyddau wedi eu caffael a gwasanaethau’

Mae’r adroddiad yn amlinellu cyfres o gasgliadau ac argymhellion lefel uchel ar gyfer camau gweithredu byrdymor a hirdymor gan Lywodraeth Cymru, CLlLC, ac Awdurdodau Lleol i fwrw ymlaen â datgarboneiddio drwy gaffael. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu a’u datblygu fel rhan o waith Rhaglen Gefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad, ac yr ydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r adroddiad hwn a’i argymhellion i wneud hynny.


Arweiniad Byr ar lunio Cynllun Lleihau Carbon

Er mwyn cynorthwyo cwmnïau/BBaCH (SMEs) gyda llunio Cynllun Lleihau Carbon, yr ydym wedi creu arweiniad byr sy’n cynnwys dolenni i hyfforddiant, templedi, ac arweiniad ar lunio cynllun a chyfrifo ôl troed carbon o weithgareddau.


Blog CYD - Dadbacio a mynd i’r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi


 

‘Scope 3 GHG Measurement and Reporting Protocols for Food and Drink’ (WRAP Cymru)

Canllawiau a ddatblygwyd ar gyfer Ymrwymiad Courtauld WRAP Cymru – cytundeb gwirfoddol yn mynd i’r afael â gwastraff bwyd, allyriadau nwyon tŷ gwydr a straen dŵr ar draws y gadwyn fwyd gyfan.


Offeryn ‘Carbon WARM’ (WRAP Cymru)

Mae ‘Carbon Waste and Resources Metric (Carbon WARM)’ yn set o ffactorau trosi i fynegi data tuneli rheoli gwastraff o ran eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr mewn perthynas â thirlenwi.


Nodyn Polisi Caffael Cymru: Datgarboneiddio drwy gaffael (Llywodraeth Cymru)


Meini prawf ecolegol ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau (EcoBuy Fienna)


Canllawiau Hierarchaeth Caffael Gynaliadwy - 2021 (Wrap Cymru)

Mae’r canllaw ymarferol byr hwn yn cyflwyno Hierarchaeth Caffael Gynaliadwy ynghyd ag egwyddorion arweiniol ac enghreifftiau. 


Canllaw i’r sector cyhoeddus ar gaffael nwyddau cynaliadwy - 2020 (Wrap Cymru)

Mae’r ddogfen hon wedi’i dylunio i helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu prosesau caffael a dewis deunyddiau carbon isel.


Canllaw i’r sector cyhoeddus ar gaffael plastigion - 2019 (Wrap Cymru)
Mae’r ddogfen yn cynnig gwybodaeth sylfaenol y gall cyrff cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio ar gyfer mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol plastig. 


Caffael yn y Sector Cyhoeddus: Tudalen Astudiaeth Achos (Wrap Cymru)

Astudiaethau achos o Sector Cyhoeddus Cymru sy'n amlygu enghreifftiau o arfer gorau o ran caffael cynaliadwy.


Cefnogi caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (Wrap Cymru)


Fframwaith caffael economi gylchol (Sefydliad Ellen MacArthur)

Mae’r fframwaith hwn yn rhoi trosolwg o’r pwyntiau ymyrryd y gall sefydliadau eu defnyddio i wneud eu dewisiadau prynu’n fwy cylchol a chynnwys eu cyflenwyr mewn sgyrsiau a phartneriaethau cylchol cydweithredol.


Caffael ar gyfer Atgyweirio, Ailddefnyddio ac Ail-weithgynhyrchu (Zero Waste Scotland)

Bwriad y canllawiau hyn yw helpu’r rhai sy’n gyfrifol am gomisiynu, pennu a chaffael cynhyrchion, offer a gwasanaethau i wreiddio’r buddion sy’n deillio o ffocws perthnasol a chymesur ar Atgyweirio, Ailddefnyddio ac Ail-weithgynhyrchu a mesurau ymyrryd cysylltiedig.


Caffael Cyhoeddus ar gyfer Economi Gylchol - 2017 (Comisiwn Ewropeaidd)

Arfer da ac arweiniad


Grymuso’r Economi Gylchol drwy gaffael - 2017 (letsrecycle.com) (Erthygl)

Sut mae gan gaffael rhan fawr i’w chwarae yn y trawsnewid tuag at economi gylchol.


 

https://www.wlga.cymru/resources-–-procurement