CLILC

 

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Fe roes y Frenhines sêl ei bendith ar Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar 18fed Ionawr 2016.

Mae’r ddeddf wedi’i llunio yn sgîl llwyddiant y rheoleiddio yng Nghymru, ac mae’n adlewyrchu sefyllfa gyfnewidiol gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi ansawdd gwasanaethau a gwella wrth wraidd trefn y rheoleiddio ac yn cryfhau’r amddiffyn er lles pobl y bydd ei angen arnyn nhw. Mae’n gofyn i bawb gyflawni mwy na dim ond cydymffurfio â’r safonau lleiaf – a hynny trwy ganolbwyntio ar ansawdd y gwasanaethau a’r effaith ar y rhai sy’n eu derbyn.

Mae’r ddeddf yn rhoi fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol, gan:

  • sefydlu trefn reoleiddio sy’n cyd-fynd â’r newid ddaw ar ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014
  • diwygio trefn rheoleiddio gofal cymdeithasol trwy roi’r bobl sy’n derbyn gofal a chymorth wrth ei gwraidd
  • diwygio trefn rheoleiddio gweithlu’r gofal cymdeithasol
  • diwygio trefn rheoleiddio swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol y cynghorau lleol
  • ehangu gorchwyl Cyngor Gofal Cymru a fydd ar waith o dan yr enw Gofal Cymdeithasol Cymru erbyn mis Ebrill 2017
  • ymateb i’r gwersi sydd wedi’u dysgu yn sgîl datgelu gwallau yn y drefn trwy waith megis Adolygiad Flynn

Dolenni: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru: Hyb gwybodaeth a dysgu**

**Dyma wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant i helpu arbenigwyr gofal cymdeithasol i weithredu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Cyngor Gofal Cymru a’i bartneriaid wedi sefydlu’r ganolfan yn rhan o’r ymdrech i baratoi cynllun dysgu a datblygu gwladol fydd yn helpu pawb i weithredu yn ôl y ddwy ddeddf.  Mae’r ganolfan yn cynnig yr holl wybodaeth angenrheidiol ar amryw ffurfiau.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Stewart Blythe

https://www.wlga.cymru/regulation-and-inspection-of-social-care-wales-act