Lleihau allyriadau carbon o dai yn “gam pwysig” i fynd i’r afael â thlodi tanwydd

Dydd Iau, 18 Gorffennaf 2019

Yn ymateb i gyhoeddi adroddiad annibynnol gan y Grŵp Cynghorol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi, dywedodd llefarydd CLlLC dros Dai, y Cynghorydd Andrea Lewis (Abertawe):

 

“Mae’r adroddiad yma heddiw yn gyfraniad gwerthfawr i’n hymdrechion ar y cyd i sicrhau bod tai yng Nghymru yn fwy ynni effeithiol. Does gan lywodraeth leol na landlordiaid cymdeithasol unrhyw amheuaeth o raddfa’r sialens, yn enwedig o ystyried bod y stoc o dai cyfredol yng Nghymru ymysg y lleiaf effeithiol yn Ewrop, a byddwn yn edrych ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gallwn ni oresgyn y goblygiadau o ran adnoddau.”

 

“Fel landlordiaid cymdeithasol, mae awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu effeithlonrwydd ynni fel rhan o’u gwaith yn adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy am y tro cyntaf mewn degawdau. Bydd gwneud ein stoc tai presennol yn fwy ynni effeithlon yn gam pwysig arall er mwyn torri allyriadau ac i ddod yn fwy cyfrifol o ran yr amgylchedd.”

 

“I awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, bydd ddatgarboneiddio ein stoc tai cyfredol yn hollbwysig i sicrhau bod Cymru yn llwyddo i gyrraedd targedau amgylcheddol uchelgeisiol. Ond yn bwysicach, bydd y gwaith yn cynhyrchu buddion gwirioneddol i drigolion drwy wella effeithlonrwydd tanwydd a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.”

 

 

-DIWEDD-

 

 

Nodiadau i Olygyddion

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30