Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae CLlLC yn darparu mynediad dienw i ymwelwyr. Gallwch gael mynediad i’r holl gynnwys ar ein gwefan heb fod angen mewngofnodi.
Casglu gwybodaeth yn awtomatig
Fel gyda phob gwefan, mae cofnodion awtomatig, dienw o ba dudalennau sy’n cael eu hagor yn cael eu cadw. Bydd y system gofnodi hefyd yn casglu data amhersonol amrywiol arall (fel system weithredu, porwr neu dechnoleg fynediad arall a ddefnyddir, ac eglurder sgrin o gyfrifiadur pob ymwelydd). Caiff cyfeiriad IP pob ymwelydd ei gofnodi hefyd, ond ni chaiff ei ddefnyddio i adnabod unrhyw ymwelydd yn bersonol. Caiff y wybodaeth hon ei chasglu yn ddata ystadegol dienw yn unig. Ni fydd y system yn casglu unrhyw ddata arall – a bydd y data a gesglir yn aros fel eiddo CLlLC a chaiff ei ddefnyddio dim ond ar gyfer dibenion cynnal a gwella’r wefan.
Datgeliad a dewis ymwelwyr
Nid yw CLlLC yn storio unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir am unigolion sy’n cael mynediad i wefan CLlLC – oni bai lle rydych wedi dewis yn wirfoddol i roi eich manylion personol i ni drwy e-bost, neu wrth holi am unrhyw rai o’n gwasanaethau neu wneud cais amdanynt. Yn yr achosion hyn, defnyddir y data personol rydych yn ei roi i CLlLC dim ond ar gyfer darparu’r wybodaeth neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano i chi.
Rhybudd Diogelu Data
Mae CLlLC yn trin data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Weithiau byddwn yn cysylltu â chi drwy’r post, dros y ffôn, ffacs, e-bost neu wasanaeth negeseua electronig arall am nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi. Trwy ddarparu eich manylion cyswllt i ni, rydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi drwy’r dulliau marchnata hyn. Wrth ddarparu gwybodaeth bersonol ar ein gwefan, cewch gyfle i gyfyngu ar y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth.
Defnyddio cwcis ar wefan CLlLC
Ffeiliau testun bach yw cwcis a roddir ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych yn ymweld â nhw. Maent yn cael eu defnyddio'n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio’n effeithlon, ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.
Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i gasglu gwybodaeth ddienw am sut caiff ein gwefan ei defnyddio. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell i’n hymwelwyr. Hefyd, mae’r swyddogaeth cyfryngau cymdeithasol rydym yn ei defnyddio yn gosod cwcis.
Mae rhagor o wybodaeth am gwcis ar gael yn www.AboutCookies.org