CLILC

 

Atal a chyllid hirdymor yn hanfodol ar gyfer cydlyniant cymunedol, meddai cynghorau

  • RSS
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2026 Categorïau: Newyddion
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2026

Ni ellir adeiladu cydlyniant cymunedol ar gyllid tymor byr, meddai cynghorau wrth y Comisiwn Annibynnol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol yr wythnos diwethaf.

Cyfarfu’r Comisiwn â chynrychiolwyr o gynghorau, gan gynnig cyfle i lywodraeth leol helpu i lunio argymhellion ar gydlyniant yn y dyfodol. Dywed cynghorau fod yn rhaid i unrhyw gynigion adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Cymru a rôl ymarferol awdurdodau lleol wrth gyflawni.

Dywedodd cynghorau wrth y Comisiwn fod cydlyniant cymunedol yn ymwneud ag atal rhaniad cyn iddo wreiddio, a bod angen cefnogaeth sefydlog, hirdymor os yw cymunedau ledled Cymru am barhau’n wydn ac yn gynhwysol.

Tynnodd arweinwyr sylw hefyd at y gwaith parhaus sy’n cael ei gyflawni gan gynghorau mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector. Nodwyd bod cytundebau partneriaeth ffurfiol rhwng llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig wrth gydlynu gweithgarwch a chefnogi gwaith cydlyniant cymunedol ledled Cymru.

Tynnodd y drafodaeth sylw hefyd at y cysylltiadau rhwng cydlyniant cymunedol, cydraddoldeb a gwasanaethau cyhoeddus ehangach, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod argymhellion yn y dyfodol yn cydnabod sut mae’r meysydd hyn yn cysylltu ac yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cymunedau cynhwysol.

Mae arweinwyr llywodraeth leol yn annog y Comisiwn i gydnabod cydlyniant fel seilwaith ataliol hanfodol, yn hytrach nag ymateb tymor byr i argyfwng.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llywydd CLlLC:

“Nid yw cydlyniant cymunedol yn digwydd ar ei ben ei hun. Mae’n cymryd amser, perthnasoedd lleol dibynadwy a buddsoddiad cyson.

“Mae cynghorau ledled Cymru eisoes yn cymryd camau, gyda hyfforddiant dan arweiniad arbenigwyr yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru i helpu cynghorwyr a swyddogion i ymateb i gamwybodaeth a niwed sy’n deillio o wybodaeth anghywir, ochr yn ochr â gwaith ehangach i hyrwyddo parch mewn bywyd cyhoeddus.

“Os ydym eisiau cymunedau lle gall pobl anghytuno heb raniad a theimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu, mae’n rhaid i ni drin cydlyniant fel gwaith ataliol a’i ariannu’n briodol. Cynghorau yw’r agosaf at eu cymunedau ac yn aml nhw yw’r cyntaf i weld pwysau’n dod i’r amlwg, felly mae’n hanfodol bod argymhellion cenedlaethol yn cydnabod y cyd-destun datganoledig yng Nghymru a’r rôl ganolog y mae llywodraeth leol yn ei chwarae wrth wneud i’r gwaith hwn lwyddo.

“Yn anad dim, mae angen i ni gofio bod cydlyniant cymunedol yn effeithio ar bob maes o fywyd cyhoeddus, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn lleoedd lle mae gwahaniaeth yn cael ei barchu, tensiynau yn cael eu datrys yn gynnar, a phawb yn teimlo eu bod yn perthyn.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrea Harrington, Llefarydd CLlLC dros Dai a Lloches:

“Mae cydlyniant cymunedol yn cael ei adeiladu drwy’r cysylltiadau bob dydd yn ein trefi a’n pentrefi. O fannau cymunedol sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd i ddigwyddiadau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd, mae cynghorau a phartneriaid cymunedol yn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu croesawu ac yn rhan o’u cymdogaethau.

“Ond mae’r gwaith hwn yn dibynnu ar bartneriaethau cryf a’r amser a’r adnoddau i ymgysylltu’n briodol â chymunedau. Mae partneriaethau agos rhwng llywodraeth leol, cyrff sector cyhoeddus eraill a sefydliadau gwirfoddol y trydydd sector yn hollbwysig i wneud y gwaith hwn yn bosibl. P’un a ydym yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ymgartrefu mewn cymunedau newydd neu’n ymateb i bwysau lleol, mae gwneud hyn yn iawn yn golygu cynllunio’n ofalus, gweithio gyda phreswylwyr, a sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i feithrin perthnasoedd cadarnhaol o’r cychwyn cyntaf.” 

https://www.wlga.cymru/prevention-and-long-term-funding-essential-for-community-cohesion-councils-say