Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 3 Hydref 2023
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Iau 26 Hydref 2023
Cyflog: Graddfa 5 - SCP 33-41 (£39,493 - £47,573)
Tymor: Parhaol
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Nac ydy. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’n rhugl yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Ynglŷn â’r Swydd
Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn cynnwys nifer o feysydd polisi a nifer o dimau a ariennir gan grantiau â chylch gwaith mwy penodol. Mae cylch gwaith y Gyfarwyddiaeth yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd; tai; ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudo; diogelwch cymunedol yn cynnwys materion yn effeithio ar Awdurdodau Tân ac Achub a’r gymuned Lluoedd Arfog. Mae’r timau a ariennir gan grantiau yn y Gyfarwyddiaeth yn cynnwys y Tîm Archwilio ar y Cyd (ar gyfer diogelwch adeiladu); y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol; y Gwasanaeth Niwrowahaniaeth Cenedlaethol (y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol cyn hynny); Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru; a Phartneriaeth Mudo Strategol Cymru. Mae’r Gyfarwyddiaeth hefyd yn gyswllt arwyddocaol â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru.
Mae llawer o’r materion sydd yng nghylch gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhai trawsbynciol sy’n golygu bod angen gweithio ar draws polisïau a sectorau, gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac ystod o bartneriaid eraill, gyda phwyslais ar wella canlyniadau i ddinasyddion ar draws Cymru.
Gan weithio yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn CLlLC, bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth polisi arbenigol ar bob agwedd o wasanaethau cymdeithasol a materion gofal cymdeithasol (plant ac oedolion), a’u rhyngwyneb gyda gwasanaethau gofal iechyd a’r GIG, o safbwynt llywodraeth leol.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ar 07770958639.
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Mawrth 3 Hydref 2023 i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol ar Dydd Iau 26 Hydref 2023.
Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.