CLILC

 

Diogelwch Personol ar gyfer Aelodau

Prin yw'r achosion o drais yn erbyn ffigurau cyhoeddus, ond mae gan gynghorwyr rôl amlwg. Maen nhw’n ymwneud ag aelodau o'r gymuned drwy’r amser a gallen nhw gael eu cam-drin ar lafar neu'n ysgrifenedig. Gallen nhw gael eu haflonyddu, eu stelcian a’u cam-drin ar-lein. 

 

Felly, mae'n bwysig bod cynghorwyr yn deall y camau y dylen nhw eu cymryd i gadw eu hunain yn ddiogel. Bydd y tudalen yma i gynghorwyr yn eich cyfeirio at gymorth ac yn amlinellu rhai o’r camau y gallwch eu cymryd i leihau perygl a gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.

 

Dylai cynghorwyr ofyn am arweiniad gan eu harweinwyr iechyd a diogelwch neu Benaethiaid y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch y canllawiau penodol sydd ar waith yn lleol a bod yn ymwybodol o'r peryglon pan fyddwch yn:

  • Ymweld â phobl yn eu cartrefi
  • Ymdrîn â’r rhai sydd wedi galw heibio eich cartref
  • Cynnal cymorthfeydd
  • Teithio, boed ar gludiant cyhoeddus neu breifat, a phan fyddwch ar eich pen eich hun
  • Cyfathrebu ar-lein

 

Os oes gennych, yn rhinwedd eich rôl, bryder penodol neu’n teimlo eich bod mewn perygl, siaradwch â’ch cynghorydd iechyd a diogelwch, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd neu’r Swyddog Monitro. Gallech gael gafael ar hyfforddiant perthnasol neu offer diogelwch i’ch amddiffyn yn eich rôl.

 

Adnoddau Defnyddiol

  • Diogelwch Personol - Canllaw i Gynghorwyr: Mae Uned Wybodaeth Llywodraeth Leol (LGIU) wedi cyhoeddi canllaw ar gyfer cynghorwyr yn benodol sy’n trin a thrafod beth i’w wneud yn y sefyllfaoedd hyn. Am ragor o ganllaw cynhwysfawr, gweld dolen yma
  • Cyngor ynghylch Diogelwch Personol: Mae cyngor ardderchog ar gael ar-lein hefyd gan Ymddiriedolaeth Susie Lamplugh. Dyma rai enghreifftiau o’r pynciau trafod canfasio ac ymgyrchu, ymdrin ag ymddygiad ymosodol, stelcio, gweithio ar eich pen eich hun, larymau personol, troseddau casineb a diogelwch ar y rhyngrwyd
  • Camdriniaeth Ar-lein - Canllaw i Gynghorwyr: Mae WLGA wedi cyhoeddi canllaw ynghylch sut i fynd i’r afael â cham-drin ar-lein
  • Canllaw am sut i fod yn ddiogel ar-lein: Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar-lein ar gael ar wefan, Get Safe Online, a gefnogir gan y llywodraeth. Mae’n cwmpasu pob agwedd, gan gynnwys diogelu eich dyfeisiau, rhwydweithio cymdeithasol a diogelwch gwybodaeth
  • Canllaw ynghylch Sut i Adnabod Bygythiadau Terfysgol: Mae gan y swyddfa gwrth-derfysgaeth genedlaethol wybodaeth ddefnyddiol am beth i’w wneud gyda phecynnau amheus a’r camau i’w cymryd os oes bygythiadau terfysgol

 

Os nad ydych yn gwbl siŵr pa gamau i’w cymryd i gadw eich hun yn ddiogel, gofynnwch am gymorth gan eich cynghorydd iechyd a diogelwch neu Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tîm Gwella CLlLC

Gwelliant@wlga.gov.uk

https://www.wlga.cymru/personal-safety-for-members