CLILC

 

Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol Cam IV Ailsefydlu Cleifion y Galon

Mae Cam IV Ailsefydlu Cleifion y Galon yn rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer o’r radd flaenaf dan oruchwyliaeth. Nod y rhaglen yw eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir.

 

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol yn defnyddio arferion gorau’r DG, yn ôl y dystiolaeth ddiweddaraf, ac yn gweithredu yn ôl safonau gwladol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r cynllun ar y cyd â Chymdeithas Prydain dros Ailsefydlu Cleifion y Galon, yr awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a’r byrddau iechyd lleol.

 

Prif nodau’r cynllun

  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion sydd wedi gorffen trydydd cam yr ailsefydlu fel y gallan nhw fynd ymlaen i’r pedwerydd.
  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion sydd wedi gorffen pedwerydd cam yr ailsefydlu fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol.
  • Ailsefydlu cleifion yn y pedwerydd cam mewn modd diogel ac effeithiol yn ôl safonau gwladol.
  • Gwella iechyd corff a meddwl pob claf yn ogystal â’i les.
  • Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir.

 

Meini prawf ynglŷn â chymryd rhan

Mae’r cynllun ar gyfer cleifion sydd wedi gorffen trydydd cam yr ailsefydlu clinigol ar gyfer clefyd y galon. Mae’n defnyddio hyfforddwyr cymwysedig a phrotocolau priodol i ailsefydlu cleifion yn ddiogel ym mhob bro. Felly, mae meini prawf o ran pwy sy’n cael cymryd rhan ynddo. Cyfrifoldeb y cydlynydd fydd gofalu bod pob claf yn cyd-fynd â’r meini prawf a rhoi gwybod i’r sawl oedd wedi’i atgyfeirio os nad yw’n eu bodloni. Os yw cyflwr y claf yn newid yn ystod y rhaglen ac nad yw’n bodloni’r meini prawf mwyach, rhaid i’r hyfforddwr roi gwybod i’r cydlynydd fel y gall gymryd y camau priodol.

 

Diben y meini prawf yw gofalu bod cleifion yn ymarfer yn ôl y lefel briodol. 


Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk

https://www.wlga.cymru/ners-phase-iv-cardiac-intervention