CLILC

 

Rhaglen gymunedol ar gyfer helpu pobl i osgoi cwympo NERS

Mae rhaglen gymunedol ar gyfer helpu pobl i osgoi cwympo yn cael ei phrofi mewn saith ardal o dan nawdd y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol. Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer gymeradwy o dan ofal hyfforddwyr cymwysedig ym maes sefydlogrwydd ystumiol.

 

Mae’r cynllun yn defnyddio arferion gorau’r DG ac yn gweithredu yn ôl safonau gwladol. Mae Llywodraeth Cymru, Later Life training, awdurdodau lleol, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a’r Byrddau Iechyd Lleol yn ymwneud â’r cynllun.

 

Prif nodau’r cynllun:

  1. Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio pobl fel y gallan nhw gymryd rhan mewn rhaglen am osgoi cwympo
  2. Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio pobl fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol wedyn
  3. Cynnig rhaglen ddiogel ac effeithiol am osgoi cwympo, yn ôl safonau gwladol
  4. Gwella’r cleifion o ran cryfder a’r gallu i sefyll a symud
  5. Gwella gallu’r cleifion o ran gweithredu yn y byd
  6. Cryfhau esgyrn a chyhyrau’r cleifion
  7. Cynyddu hyder y cleifion
  8. Gwella pob claf o ran iechyd ei feddwl a’i les
  9. Lleddfu’r ynysu cymdeithasol ymhlith cleifion
  10. Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir

Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk

https://www.wlga.cymru/ners-community-falls-prevention-intervention