Mae gwefan Fy Nghyngor Lleol yn galluogi pobl i weld gwybodaeth am faint mae pob cyngor wedi’i gyflawni yn ogystal â darllen adroddiadau’r cyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio. Dyma ddolen â’r wefan.
Mae’r wefan yn un y gall pobl ei defnyddio braidd yn hawdd ac mae o gymorth mawr i gynghorwyr, swyddogion a phartneriaid, hefyd.
Mae modd defnyddio’r wefan i gymharu gwaith cynghorau mewn meysydd penodol yn ogystal â gweld pa mor dda mae pob cyngor wedi gweithio dros ryw gyfnod.
Mae’r wefan yn defnyddio amryw ddangosyddion bob blwyddyn – y Dangosyddion Strategol Gwladol, sydd wedi’u llunio gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â Dulliau Mesur Atebolrwydd Cyhoeddus, sydd wedi’u pennu ym maes llywodraeth leol. Fydd dim gofyn statudol i ddefnyddio dangosyddion gwladol ar ôl 2016-17, ond mae’r cynghorau wedi cytuno i hel ystadegau ar eu cyfer o’u gwirfodd.
Bob mis Medi, diweddarir gwybodaeth am waith y cynghorau lleol dros y flwyddyn ariannol flaenorol (Ebrill–Mawrth) ond diweddarir adroddiadau gan arolygwyr, archwilwyr a rheoleiddwyr allanol yn amlach.
Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru sy’n cynnal y wefan ar ran WLGA. Mae’n cynnal gwefan gyffelyb ar gyfer Gwasanaeth Gwella COSLA yn yr Alban, hefyd. Dyma wefan yr Alban.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford