Diwygiadau sylweddol i gynghorau yng Nghymru

Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2019

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diwygiadau eang i lywodraeth leol drwy’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyhoeddwyd heddiw.

 

Bydd y Bil yn darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol newydd i gynghorau, yn symleiddio gofynion llywodraethu a pherfformiad y cynghorau ac yn cyflwyno diwygiadau etholiadol, gan gynnwys pleidleisiau ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed, sy'n adlewyrchu'r rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynulliad.

 

Wrth sôn am gyflwyniad y Bil, dywedodd y Farwnes Wilcox o Gasnewydd, Arweinydd CLlLC:

 

“Mae llawer i’w groesawu yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Mae'n benllanw sawl blwyddyn o ddatblygu polisi, gan gynnwys Bil Drafft a sawl Papur Gwyrdd a Gwyn, ac mae'n rhoi eglurder i gynghorau ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio.”

 

“Nid yw cynghorau wedi sefyll yn eu hunfan, maent wedi diwygio a thrawsnewid gwasanaethau, er gwaethaf degawd o gynni. Mae cynghorau wedi arloesi a chydweithio i sicrhau bod eu gwasanaethau’n ymateb i anghenion eu cymunedau a bydd y Bil yn rhoi pwerau newydd i gynghorau a mwy o hyblygrwydd i gwrdd â’r heriau hyn a’r heriau yn y dyfodol.”

 

“Mae croeso arbennig i bŵer cymhwysedd cyffredinol, diwygio etholiadol a symleiddio gofynion llywodraethu a pherfformiad. Mae rhai rhannau o’r Bil wedi’u datblygu mewn partneriaeth â llywodraeth leol, drwy’r gweithgor dan gadeiryddiaeth Derek Vaughan, ac mae arweinwyr wedi gwerthfawrogi ymrwymiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyd-gynhyrchu a phartneriaeth.”

 

“Yn anochel, fodd bynnag, bydd rhai cynigion yn rhannu barn, gan gynnwys pŵer Gweinidogol i sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol rhanbarthol ac mae gan rai cynigion y potensial i ychwanegu beichiau a bydd iddynt oblygiadau cyllidebol.”

 

Mae'r Bil yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth ac, ynghyd â'r dogfennau cyfreithiol sy'n cyd-fynd ag ef, mae iddo dros 800 o dudalennau. Bydd angen i CLlLC ac awdurdodau lleol ystyried manylion, goblygiadau ariannol ac effaith y diwygiadau arfaethedig yn ofalus yn ystod y misoedd nesaf ond maent edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau a chefnogaeth i gynghorau wrth roi'r diwygiadau deddfwriaethol ar waith.

 

-DIWEDD-

Postio gan
Jenna Redfern

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30