CLILC

 

Llywodraeth Leol – Ymrwymiadau Addasu i'r Newid Hinsawdd

Mae'r Panel Strategaeth Hinsawdd Llywodraeth Leol (PSH) wedi'i sefydlu i helpu i arwain, cefnogi a rhoi trosolwg strategol i waith datgarboneiddio mewn llywodraeth leol. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae pum grŵp gwaith strategol PSH: Addasiad a phedwar grŵp datgarboneiddio (Adeiladau, Defnydd Tir, Caffael, Trafnidiaeth).

 

Cyhoeddwyd Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn dilyn mewnbwn gan yr is-grŵp hwn: Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd ar gyfer Cymru 2024

 

Yn dilyn hyn, mae'r grŵp Addasiad bellach wedi datblygu Ymrwymiadau Addasu Llywodraeth Leol gyda'r nod allweddol o gefnogi cynghorau i gyflawni'r ymrwymiadau hyn:

 

  1. Cydweithio a Phartneriaeth

Bydd cynghorau yn chwarae rhan flaenllaw wrth ysgogi gwytnwch hinsawdd drwy ddarparu cefnogaeth barhaus i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ddatblygu Asesiadau Risg Newid Hinsawdd a chynlluniau gweithredu hinsawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Byddant hefyd yn gweithio gyda Fforymau Gwydnwch Lleol i integreiddio addasu i'r hinsawdd i gynllunio argyfyngau lleol a sicrhau ymatebion cydlynol, seiliedig ar le i risgiau hinsawdd.

 

  1. Gwytnwch Gwasanaeth

Mae cynghorau yn ymrwymo i ymgorffori newid yn yr hinsawdd mewn rheoli risg sefydliadol trwy asesu’n systematig gallu a chynhwysedd y sefydliad i ymateb i argyfyngau ac aflonyddwch sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys nodi a mynd i'r afael â risgiau lefel gwasanaeth, gan sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i fod yn wydn o dan ystod o senarios hinsawdd.

 

  1. Gwytnwch Cymunedol

Mae cynghorau yn ymrwymo i gryfhau gwytnwch cymunedau trwy weithio mewn partneriaeth i feithrin capasiti lleol ac integreiddio addasu i'r hinsawdd i gynllunio sy’n seiliedig ar leoedd, gan sicrhau bod pob cymuned wedi’i pharatoi’n well ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn gallu ymateb ac adfer ohonynt.

 

  1. Arweinyddiaeth

Mae Arweinwyr Cynghorau yn ymrwymo i roi addasu i'r hinsawdd wrth wraidd gwneud penderfyniadau strategol trwy hyrwyddo gwytnwch fel blaenoriaeth gorfforaethol ac ymgorffori risg hinsawdd mewn fframweithiau llywodraethu a pherfformiad.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r CLlLC i redeg y Rhaglen Cefnogi Newid Hinsawdd, gan ddarparu capasiti ac adnoddau hanfodol i gefnogi cynghorau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae' r grŵp Addasiad hefyd yn cydweithio â gwaith addasu'r Rhaglen Cymorth Hinsawdd.


 

https://www.wlga.cymru/local-government-–-climate-change-adaptation-commitments