CLILC

 

Sefyllfa’r awdurdodau lleol ynglŷn â throsglwyddo eu tai

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

  • Pleidleisiodd y tenantiaid yn erbyn trosglwyddo eu tai fis Chwefror 2012. Roedd 66.7% o’r tenantiaid wedi bwrw pleidlais – 34.8% o blaid y trosglwyddo a 65.2% yn ei erbyn. Mae’r cyngor yn cydweithio â nhw i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Cyngor Caerdydd

  • Yn ôl ei gynllun busnes, gall y cyngor gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a’i chynnal trwy ei adnoddau ei hun wedyn.

Cyngor Sir Gâr

  • Yn ôl ei gynllun busnes, gall y cyngor gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a’i chynnal trwy ei adnoddau ei hun wedyn.

Cyngor Sir Ddinbych

  • Yn ôl ei gynllun busnes, gall y cyngor gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a’i chynnal trwy ei adnoddau ei hun wedyn.

Cyngor Sir y Fflint

  • Pleidleisiodd y tenantiaid yn erbyn trosglwyddo eu tai fis Mawrth 2012. Roedd 71% o’r tenantiaid wedi bwrw pleidlais – 88% yn erbyn y trosglwyddo a 12% o’i blaid.

Cyngor Sir Ynys Môn

  • Yn ôl ei gynllun busnes, gall y cyngor gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a’i chynnal trwy ei adnoddau ei hun wedyn.

Cyngor Sir Benfro

  • Yn ôl ei gynllun busnes, mae’r cyngor yn bwriadu cadw ei dai a bydd yn adolygu hynny bob blwyddyn.

Cyngor Sir Powys

  • Mae’r cyngor ar y trywydd at Safon Ansawdd Tai Cymru a’r dyb yw y bydd yn cadw ei dai.

Dinas a Sir Abertawe

  • Pleidleisiodd y tenantiaid yn erbyn trosglwyddo eu tai fis Mawrth 2007.

Cyngor Bro Morgannwg

  • Pleidleisiodd y tenantiaid yn erbyn trosglwyddo eu tai fis Ebrill 2011. Roedd 68.4% (3,245) ohonyn nhw wedi bwrw pleidlais – 49.2% o blaid y trosglwyddo a 50.8% yn ei erbyn. Mae’r cyngor yn cydweithio â’r tenantiaid i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • Pleidleisiodd y tenantiaid yn erbyn trosglwyddo eu tai fis Mawrth 2004.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://www.wlga.cymru/local-authority-position-on-housing-stock-transfer