CLILC

 

Bwyta'n Iach yn yr Ysgol

Sut y darperir prydau ysgol yng Nghymru?

Mae cynghorau’n darparu gwasanaethau arlwyo ‘mewnol’ yn y mwyafrif helaeth o ysgolion a gynhelir. Mae darparwyr eraill yn cynnwys arlwywyr contract ac ysgolion, sy'n cyflogi staff arlwyo yn uniongyrchol. Darperir gwasanaethau arlwyo amser cinio ym mhob ysgol, egwyl y bore yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, a brecwast yn y rhan fwyaf o ysgolion. Mae prydau ysgol yn cael eu paratoi ar y safle fel arfer, drwy geginau cynhyrchu llawn. Mewn nifer fach o ysgolion, caiff prydau eu cludo i mewn o ysgolion mwy neu uned gynhyrchu ganolog.

 

Pam bod bwyta’n iach yn elfen bwysig mewn ysgolion?

Bu pryder ers tro ynghylch nifer y plant sydd dros bwysau neu’n ordew a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar iechyd a lles. Mae diet gwael yn ffactor sy'n cyfrannu'n fawr. Mae’r bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at roi diet cytbwys i blant a phobl ifanc a’u hannog i ddatblygu arferion bwyta iach. Y nod yw cyflawni ymagwedd ysgol gyfan tuag at fwyta'n iach ac annog agweddau iach at fwyd a diod o oedran ifanc. Mae hyn yn unol â’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles o fewn y Cwricwlwm i Gymru newydd.

 

Beth yw bwyta’n iach mewn ysgolion?

Rhaid i’r bwyd a diod a ddarperir ymhob ysgol a gynhelir gan y cyngor gydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 (y ‘Rheoliadau’). Mae’r Rheoliadau hyn yn seiliedig ar y canllawiau Blas am Oes blaenorol ac yn rhan o'r Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (y ‘Mesur’).

 

Mae’r Rheoliadau yn cynnwys safonau maeth ar gyfer cinio ysgol arferol yn ogystal â’r gofynion bwyd a diod drwy gydol y diwrnod ysgol. Mae'r safonau maeth yn pennu isafswm neu uchafswm gwerthoedd ar gyfer egni a 13 o faetholion, sy’n perthnasol i ginio ysgol arferol a gyfrifir dros bob wythnos o gylch bwydlen. Mae’r gofynion o ran bwyd a diod yn disgrifio’r mathau o fwyd a diod sy’n rhaid eu darparu, wedi eu cyfyngu a heb eu caniatáu rhwng brecwast a 6pm.

 

Rhoddodd y Mesur bŵer i Weinidogion Cymru wneud y Rheoliadau uchod ac mae’n gosod sawl dyletswydd ar gynghorau a chyrff llywodraethu ysgolion i annog disgyblion i fwyta ac yfed yn iach. Er mwyn monitro cydymffurfiaeth, mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion ddarparu gwybodaeth yn eu hadroddiad blynyddol ar y camau a gymerwyd i annog disgyblion i fwyta ac yfed yn iach yn eu hysgolion. Mae’n ofynnol i Estyn adrodd i Weinidogion Cymru ar y camau a gymerwyd gan ysgolion.

 

Canllaw ymarferol i weithredu’r ddeddfwriaeth uchod yw’r Canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu. Mae’n rhaid i Gynghorau a chyrff llywodraethu ysgolion ystyried y canllawiau ac, os ydynt yn penderfynu gwyro oddi wrthynt, mae’n rhaid iddynt gael rhesymau clir y gellir eu cyfiawnhau dros wneud hynny.

 

O fewn cynllun cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2022 i 2024, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ‘adolygu’r rheoliadau ar faetheg bwyd ysgol yn unol â’r safonau a’r canllawiau maeth diweddaraf, a diweddaru’r safonau cyfredol’. Disgwylir i hyn ystyried y ddarpariaeth bwyd a diod ochr yn ochr ag amseriad y darpariaethau hyn yn ystod y diwrnod ysgol, yn ogystal â’r gofod sydd ar gael i eistedd a bwyta prydau ysgol. Mae’r ddau yn dylanwadu ar y nifer sy’n manteisio ar y ddarpariaeth a’r dewisiadau. Yn 2019, nododd adroddiad Iach a hapus Estyn fod ‘ysgolion wedi byrhau amser cinio’ ac ‘nid oes gan bob ysgol ddigon o le i ddisgyblion eistedd a bwyta pryd amser cinio’. Mae’r problemau hyn yn fwy cyffredin mewn ysgolion uwchradd a gallant ‘gyfrannu at ddisgyblion ddim yn bwyta pryd cytbwys’.

 

Sut mae CLlLC yn cefnogi bwyta’n iach mewn ysgolion?

Mae Tîm Bwyd mewn Ysgolion CLlLC yn cynnwys Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion, Cydlynydd Rhaglen Bwyd mewn Ysgolion a Dietegydd Cenedlaethol ar gyfer Deietau Arbennig mewn Ysgolion.

 

Prif gyfrifoldeb y Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion yw cynghori a chefnogi cynghorau ac ysgolion i gyflawni a chynnal cydymffurfiaeth gyda’r Mesur a’r Rheoliadau.  Mae hyn yn cynnwys darparu meddalwedd dadansoddi maeth, hyfforddiant i gynnal dadansoddiadau maeth, Canllawiau Dadansoddi Maeth, Canllawiau a Phecyn Tystiolaeth, Posteri a Briffio ar gyfer penaethiaid a chyrff llywodraethu.

 

Mae’r Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion yn cyflwyno Tystysgrifau Cydymffurfio blynyddol i wasanaethau arlwyo, sy’n cyflwyno tystiolaeth gywir sy’n cydymffurfio ac mae’r darparieth yn cael ei wirio gan y cyngor cyfrifol neu gorff llywodraethu’r ysgol. Mae’r broses ardystio hon yn wirfoddol a gellir ei defnyddio fel tystiolaeth yn ystod arolygiadau Estyn ac asesiadau Gwobr Ansawdd Genedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach Rhwydwaith Cymru. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau a’r prif arlwywyr contract yng Nghymru yn dilyn y broses ardystio. Mae ysgolion uwchradd sydd â’u trefniadau arlwyo eu hunain yn cael eu hannog yn gryf i ddilyn y broses. Mae Estyn wedi dweud ‘nad yw’r corff llywodraethu wedi cymryd digon o gamau i sicrhau eu hunain fod eu harlwywyr yn cydymffurfio â safonau maeth cyfreithiol mewn tua hanner yr ysgolion uwchradd hyn.’

 

Yn ogystal â’r uchod, mae’r Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion wedi paratoi dogfen ar gyfer arolygwyr Estyn ac aseswyr Gwobr Ansawdd Genedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru, sy’n tynnu sylw at Doriadau amlwg, negeseuon anghyson ac arferion da yn ymwneud â bwyta’n iach mewn ysgolion, a gwybodaeth i rieni am Fyrbrydau iach a Diodydd iach mewn ysgolion cynradd i annog dod â bwyd a diod iachach i'r ysgol.

 

Mae aelodau eraill o Dîm Bwyd mewn Ysgolion CLlLC yn cefnogi’r Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion mewn perthynas â bwyta’n iach mewn ysgolion, gan gyfrannu arbenigedd ym maes arlwyo a dieteteg ysgolion, gyda chyfrifoldebau penodol. Mae Cydlynydd y Rhaglen Bwyd mewn Ysgolion yn cydlynu ac yn cefnogi rhaglenni bwyd mewn ysgolion ar ran Llywodraeth Cymru a CLlLC, gan weithio gyda chynghorau, ysgolion ac asiantaethau partner. Mae’r Deietegydd Cenedlaethol ar gyfer Deietau Arbennig mewn Ysgolion yn cynghori ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru, cynghorau ac ysgolion mewn perthynas â materion diet arbennig mewn ysgolion, gan ddatblygu canllawiau a hyfforddiant ar gyfer rheoli dietau arbennig mewn ysgolion.


https://www.wlga.cymru/healthy-eating-in-schools