Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau ym maes iechyd a diogelwch.
Trwy gydweithio'n agos ag ymarferwyr, adrannau Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Gweithredol dros Iechyd a Diogelwch ac amryw gyrff eraill, rydyn ni'n ceisio gwella'r hyn mae'r awdurdodau lleol yn ei gyflawni ym maes iechyd a diogelwch.
At hynny, byddwn ni'n cyfleu safbwynt cyflogwyr staff awdurdodau lleol Cymru i adrannau ac asiantaethau gwladol i ofalu ei fod yn cael ystyriaeth briodol ym mhroses llunio'r polisïau gwladol.
Gall WLGA roi cyngor a chyfarwyddyd am iechyd a diogelwch ynglŷn â nifer o faterion allweddol megis:
- rheoli iechyd a diogelwch
- adroddiad blynyddol am iechyd a diogelwch
- dylanwadu ar waith contractwyr ym maes iechyd a diogelwch trwy'r gadwyn gyflenwi
- rhoi gwasanaethau iechyd galwedigaethol ar gael
- y strategaeth wladol ar gyfer iechyd, diogelwch, gwaith a lles
- rôl a chyfrifoldebau'r cynghorwyr
Codi a chario
Mae codi a chario’n un o’r achosion mwyaf cyffredin o ran anafiadau yn y gwaith, gan achosi dros draean o’r anafiadau sy’n ymwneud â chyhyrau a’r sgerbwd. Gall anafiadau o’r fath ddigwydd bron ym mhobman yn y gwaith a gallai llafur llaw trwm, sefyll neu eistedd yn anghywir ac anafiadau blaenorol/cyfredol ychwanegu at y peryglon. Yn sgîl anafiadau codi a chario yn y gwaith, gallai fod goblygiadau difrifol i’r cyflogwr a’r sawl sydd wedi’i anafu. Felly, mae’n hanfodol i gyflogwyr leddfu peryglon er lles eu gweithwyr.
Er cymorth i fyd llywodraeth leol Cymru, mae WLGA yn cynnal cylch dros faterion codi a chario ac ynddo arbenigwyr yn y maes hwn a chynrychiolwyr yr awdurdodau lleol. Nod y cylch yw pennu ffordd gyson o ledaenu’r arferion gorau trwy lunio canllawiau a chynghori a chynorthwyo ei gilydd i leddfu’r peryglon i weithwyr ac ymgorffori’r egwyddorion mewn gwasanaethau megis sbwriel/ailgylchu a gofal cymdeithasol. Mae’r cylch wedi llunio nifer o ddogfennu er cymorth i awdurdodau lleol Cymru.
Dolenni: Guidance on hoisting / Guidance on managing and using bed rails safely
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jonathan Lloyd