Gwelliant nodedig mewn addysg yng Nghymru

Dydd Mawrth, 03 Rhagfyr 2019

Mae CLlLC heddiw wedi croesawu’r canlyniadau PISA diweddaraf, sy’n dangos gwelliant nodedig ymhob ardal o system addysg Cymru.

Wedi’i gydlynu gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), mae PISA’n asesu dealltwriaeth a sgiliau bywyd disgyblion 15 oed.

 

Yn ymateb i’r canlyniadau PISA heddiw, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae canlyniadau PISA heddiw yn dangos bod y system addysg yng Nghymru yn dal i wella, diolch i waith caled disgyblion, athrawon, staff cefnogol a phawb arall sydd ynghlwm â’r system addysg. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio’n galed gyda Llywodraeth Cymru i weithredu’r cwricwlwm diwygiedig, ac mae’n galonogol iawn i weld bod Cymru’n perfformio’n well o lawer nag yn y rowndiau PISA yn 2009 a 2012.”

“Rwy’n falch bod Andreas Schleicher, pennaeth addysg a sgiliau yr OECD, wedi cydnabod bod y newidiadau diweddar yn gam cyntaf pwysig yn y gwaith o wella addysg. Mae dysgwyr yn haeddu’r cyfleon dysgu gorau posib, a rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am eu hamynedd a’u diwydrwydd yn ystod cyfnod o newid mawr yn y cwricwlwm. Mae’n glir bod ein hymdrechion ar y cyd i ddiwygio yn talu ar eu canfed, ac mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio gyda’r holl bartneriaid perthnasol i barhau i wella ein system addysg i ddarparu dysgwyr yng Nghymru gydag addysg o’r safon uchaf.”

 

 

 

 

Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30