CLILC

 

Gwella Dinasyddiaeth Ddigidol: Ymchwil ac Arfer Da

Beth yw dinasyddiaeth ddigidol?

Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi datblygu'n barth pwysig i'r cyhoedd, yn fan lle bydd cynghorwyr yn rhannu gwybodaeth wleidyddol ac yn ymgysylltu â chynghorwyr eraill a swyddogion cymorth a thrigolion. Mae potensial i'r cyfryngau cymdeithasol wella democratiaeth drwy hwyluso trafodaethau mwy, sy'n fwy rhydd ac agored, a thrwy alluogi cynrychiolwyr i gyfathrebu'n uniongyrchol â dinasyddion. Ond mae hyn hefyd yn agor y drws i gamdriniaeth, aflonyddwch a bygythiadau, a hefyd yn fodd i ledaenu camwybodaeth a thwyllwybodaeth a all effeithio ar ddemocratiaeth leol.

 

Mae Papur Gwyn Niwed Ar-lein Llywodraeth y DU yn disgrifio twyllwybodaeth fel lledaenu gwybodaeth anghywir i dwyllo'n fwriadol. Mae'n disgrifio camwybodaeth fel rhannu gwybodaeth anghywir yn anfwriadol. Gall y naill a'r llall gyfeirio at wybodaeth anghywir am bolisi neu bwnc (er enghraifft, gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir am COVID-19) neu ledaenu straeon am rywun (mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, difetha enw da rhywun).

 

Mae aflonyddu, bygwth a cham-drin ar-lein, a lledaenu camwybodaeth a thwyllwybodaeth, bellach yn heriau mawr i ddemocratiaeth leol. Maent yn tanseilio ymgysylltiad cynhyrchiol rhwng ymgeiswyr neu swyddogion etholedig a dinasyddion, yn gwaethygu diffyg ymddiriedaeth a phegynnu mewn gwleidyddiaeth, ac yn cyflwyno rhwystrau pellach i gyfranogiad gwleidyddol. (i) Wrth i rai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol adrodd am lefelau anghymesur o gamdriniaeth a bygythiadau ar-lein, mae hyn yn her o ran cynyddu amrywiaeth ein cynrychiolwyr lleol.

 

Oherwydd eu natur dreiddiol a'u cyrhaeddiad eang, mae aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau tuag at unigolion mewn bywyd cyhoeddus yn denu sylw yn y DU a thrwy'r byd. Bu ymdrechion cenedlaethol a rhyngwladol i wella hyfforddiant i'r heddlu a chynyddu ymwybyddiaeth a mesurau amddiffyn. Fodd bynnag, mae mwyafrif y mentrau'n ymdrin a'r gamdriniaeth ar ôl iddi ddigwydd. Yn y cyfamser, mae natur a chanlyniadau pellgyrhaeddol aflonyddwch a bygythiadau yn golygu bod angen ymagwedd wahanol; ymagwedd ataliol, ragweithiol a chadarnhaol.

 

Mae gwella dinasyddiaeth ddigidol yn elfen allweddol o waith gwarineb mewn bywyd cyhoeddus gan yr LGA, CLlLC, COSLA a NILGA, ac mae'n datblygu i fod yn fwyfwy pwysig wrth inni ryngweithio'n gynyddol ar-lein, ac wrth i dechnolegau gwybodaeth newydd ddatblygu'n brif gyfryngau cyfathrebu rhwng dinasyddion, cynghorwyr a swyddogion.

 

Mae dinasyddiaeth ddigidol hefyd yn golygu ymddwyn yn briodol a chyfrifol wrth ddefnyddio technoleg, ac annog eraill i wneud hynny hefyd. Mae'n cynnwys llythrennedd digidol, moeseg, cwrteisi, diogelwch ar-lein, arferion, hawliau, diwylliant a mwy.

 

Er mwyn datblygu dinasyddiaeth ddigidol mae angen inni wella ein dull o gyfathrebu ynghylch gwleidyddiaeth ar-lein. Mae'n golygu mynegi eich barn gan barchu hawliau a phersonâu pobl eraill, ac osgoi peryglu'r bobl hynny neu achosi trallod diangen iddynt. Mae'n golygu parchu rhyddid i lefaru ac anghytuno, a chondemnio camdriniaeth ar yr un pryd. (ii)

 

Mae'r canllaw hwn yn amlinellu gwaith ymchwil a wnaed yn gysylltiedig â chynghorwyr a dinasyddiaeth ddigidol, ac yn trafod y gwaith da sy'n digwydd yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Mae "Cyngor Ymarferol i Gynghorwyr", a gyhoeddwyd ar y cyd a'r ddogfen hon, yn rhoi cyngor ac adnoddau i gynghorwyr.

 

Beth yw aflonyddu a bygwth ar-lein?

Mae Canllaw Cynghorwyr ar Ymdrin â Bygythiadau yr LGA a CLlLC yn diffinio bygythiad cyhoeddus fel “geiriau ac/neu ymddygiad gyda’r bwriad, neu sy’n debygol o rwystro neu atal cyfranogiad mewn dadlau cyhoeddus, a allai arwain at unigolyn i ddymuno tynnu’n ôl o fywyd cyhoeddus". Mae hyn yn cynnwys gweithrediadau gwahaniaethol, corfforol, seicolegol a llafar, fel ymosodiadau corfforol; rhywun yn eich dilyn, yn stelcio neu'n loetran o gwmpas; bygwth niwed; rhannu camwybodaeth; difetha enw da; negeseuon e-bost, llythyrau, galwadau ffôn a chyfathrebiadau amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol; aflonyddwch rhywiol neu ymosodiad rhywiol; a ymddygiad bygythiol arall. (iii,iv)

 

Yn benodol, diffinnir aflonyddu ar-lein fel “Math o gamdriniaeth neu fygythiadau a hwylusir gan dechnolegau gwybodaeth". Fe'i nodweddir gan gyfathrebiadau ar-lein sy'n rhoi terfyn ar drafodaeth, sy'n bygwth neu'n rhoi taw ar bobl, yn aml drwy ddangos amharch tuag at unigolion a grwpiau. Gall aflonyddu ar-lein amrywio rhwng gwawdio diystyriol a sarhau hiliol a bygwth trais corfforol, seicolegol neu economaidd, iaith casineb, bygythiadau a chamdriniaeth. (v) Yn wahanol i rai mathau eraill o drais ar-lein fel seiberfwlio ymhlith pobl ifanc a seiberhiliaeth y rhoddwyd llawer iawn o sylw iddynt gan y cyhoedd, (vivii) ychydig o sylw hyd yma a roddwyd i'r aflonyddwch, y gamdriniaeth a'r bygythiadau a ddioddefir gan wleidyddion. (viii) Pam bod hyn yn bwysig?

 

Er ei fod yn aml yn cael ei ddiystyru oherwydd ei natur rithiol, gall aflonyddwch ar-lein fod mor niweidiol â mathau eraill o gamdriniaeth a thrais sy'n digwydd oddi ar y we. (ix) Mae camdriniaeth ar-lein yn esgor ar ganlyniadau seicolegol sylweddol, gan achosi niwed emosiynol difrifol i ddioddefwyr. Bydd cyfran fawr o swyddogion etholedig yn y DU yn profi gorbryder neu ofn sy'n deillio o brofi aflonyddwch a bygythiadau, (x) a allai effeithio ar ymddygiad ac uchelgais gwleidyddol cynghorwyr a darpar gynghorwyr, yn enwedig rhai o grwpiau tangynrychioledig.

 

Yn ogystal â hyn, oherwydd natur y cyfryngau cymdeithasol, nid yw'r gamdriniaeth a brofir gan weithredwyr gwleidyddol wedi'i chyfyngu i fannau cyhoeddus. Mae'n teithio i ardaloedd preifat os bydd y dioddefwr yn derbyn y gamdriniaeth yn ei gartref neu yn rhywle arall lle'r oedd gynt yn teimlo'n ddiogel. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod dioddefwyr aflonyddwch ar-lein hefyd yn fwy tebygol o brofi mathau eraill o gamdriniaeth (xi) , a bod ei effeithiau ar lesiant mor ddifrifol â'r effeithiau sy'n deillio o drais amlycach oddi ar y we.  

 

Yn aml, amcan gwleidyddol aflonyddu ar-lein yw bygwth, dwyn anfri neu daflu amheuon ar wleidyddion, neu ddylanwadu ar wleidyddion a gwleidyddiaeth. Wrth greu strategaethau effeithiol i liniaru neu frwydro yn erbyn aflonyddwch ar-lein, dylid ystyried a yw'r sawl sy'n dioddef aflonyddwch yn adnabod yr aflonyddwr ai peidio, nifer y dioddefwyr a'r drwgweithredwyr, a yw'n digwydd ar draws gwahanol lwyfannau neu ddim ond un, ac a yw'r aflonyddwch hefyd yn digwydd oddi ar y we. (xii)

 

Mae aflonyddu ar-lein yn her o bwys mewn gwleidyddiaeth leol, gan ei fod yn lleihau'r ymdeimlad o gymuned. Bydd Cynghorwyr yn byw ymhlith aelodau o'u cymuned, ac mae angen iddynt ryngweithio â nhw i sicrhau eu bod yn cynrychioli eu trigolion yn effeithiol. Pan fyddant yn ddioddef aflonyddwch a bygythiadau ar-lein am eu bod yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol, gallant weld cysylltiadau â chymdogion a ffrindiau'n torri, profi ymdeimlad cynyddol o unigrwydd a diffyg ymgysylltiad a'r gymuned.

 

Mae aflonyddu a bygwth ar-lein yn bygwth democratiaeth oherwydd gall yr ofn o ddioddef hynny atal unigolion rhag sefyll mewn etholiad a thanseilio ymdrechion sefydliadau i annog unigolion o grwpiau wedi'u tangynrychioli i ymgeisio.

 

Bydd aflonyddwch a bygythiadau ar-lein, gan gynnwys ymgyrchoedd i bardduo enw da, yn difetha ansawdd trafodaeth wleidyddol. Mae'n cymryd llawer iawn o amser ac egni i gynghorwyr ddelio â chamdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gan ei bod yn tueddu i ddigwydd ar yr un pryd ar wahanol lwyfannau fel Twitter neu Facebook, a hefyd drwy e-bost. Gan hynny, gall delio â chamdriniaeth ar-lein yn hawdd droi'n faich sy'n lleihau'r amser y gellir ei dreulio ar weithgareddau'r Cyngor. Yn ogystal â hynny, gall ofn bygythiadau atal cynghorwyr rhag cymryd rhan mewn trafodaethau ar bolisi penodol, gan danseilio eu harbenigedd a'u profiad, a lleihau cynrychiolaeth trigolion. Ar ben hynny, bydd camdriniaeth ar-lein yn difetha ansawdd y drafodaeth wleidyddol, gan ei bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn - ar nodweddion, cymwysterau a bywyd personol y cynghorydd - yn hytrach ag ar y polisïau a hyrwyddir neu'r gwaith a wneir.

 

Cam-drin cynghorwyr lleol ar-lein

Wrth astudio aflonyddwch ar-lein mewn gwleidyddiaeth leol, mae a wnelo un o'r prif broblemau â diffyg data dibynadwy ar faint a natur y broblem. Ceir tystiolaeth anecdotaidd yn seiliedig ar ohebiaeth ar y newyddion fod cam-driniaeth a bygythiadau ar-lein yn erbyn aelodau cyngor yn gwaethygu. Fodd bynnag, mae diffyg tystiolaeth systematig yn ei gwneud hi'n anodd ffurfio casgliadau ynghylch y mathau mwyaf cyffredin o gamdriniaeth ar-lein, pwy sy'n cael eu targedu a beth yw'r canlyniadau.

 

Er mwyn cael dealltwriaeth glir o natur y gamdriniaeth ar-lein a brofir gan gynghorwyr, mae'r adran hon yn cyflwyno canlyniadau o arolwg ar-lein graddfa fawr a gynhaliwyd gan Dr Sofia Collignon (Royal Holloway, Prifysgol Llundain) a Dr Wolfgang Rüdig (Prifysgol Strathclyde) rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 (1). Atebwyd yr arolwg gan 1,487 o gynghorwyr lleol a etholwyd yn Lloegr yn 2019. Y gyfradd ymateb oedd 17 y cant(o gyfanswm o 8,296 o gynghorwyr y cysylltwyd â nhw), ac o'u plith:

  • roedd 72 y cant yn nodi eu hunain fel dynion a 28 y cant yn nodi eu hunain fel menywod
  • Nododd 4 y cant eu bod yn ddu, yn Asiaidd neu o leiafrif ethnig
  • Nododd 11 y cant eu bod yn anabl

(1) Ariannwyd drwy grant bach BA/Leverhulme SRG19\191702 a roddwyd i Sofia Collignon, Royal Holloway, Prifysgol Llundain, Medi 2019. 

 

Crynodeb o'r canfyddiadau

Mae aflonyddwch ar-lein yn digwydd yn aml ac mae cydberthynas rhyngddo â mathau eraill o gamdriniaeth.

 

Gofynnai'r arolwg i gynghorwyr a oeddent wedi profi unrhyw fath o gamdriniaeth, aflonyddwch neu fygythiadau, yn ôl eu dealltwriaeth hwy o'r termau. Nododd 34 y cant o gynghorwyr yn glir y gamdriniaeth fel aflonyddwch.

 

Yna cyflwynai'r arolwg restr i'r cynghorwyr o brofiadau posibl o gamdriniaeth gorfforol, seicolegol ac ar-lein. Gwelir cynnydd yn nifer y cynghorwyr a nododd eu bod wedi profi rhyw fath o ymddygiad amhriodol. Roedd 46 y cant o gynghorwyr wedi dioddef aflonyddwch, a oedd 12 pwynt canran yn uwch na'r rhai a oedd wedi nodi'n benodol mai aflonyddwch a brofwyd. Gyda'i gilydd, mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod gwaith i'w wneud o hyd i addysgu cynghorwyr ynghylch beth yw ymddygiad bygythiol, ac i ddadnormaleiddio camdriniaeth.

 

Adroddodd cynghorwyr eu bod hefyd yn dioddef aflonyddwch i'r un graddau gan drigolion a oedd yn flin ynghylch sefyllfaoedd neu benderfyniadau lleol, a chan eu cydgynghorwyr (71 y cant ym mhob achos).

 

Gall bygwth ac aflonyddu ar gynghorwyr ar wain at ganlyniadau emosiynol difrifol, a all effeithio ar lesiant cynghorwyr a'u gallu i gymryd rhan mewn gweithgarwch ystyrlon ar ran y cyngor. Mae'r arolwg yn dangos bod mwyafrif y cynghorwyr yn poeni (63 y cant), ac yn flin (72 y cant) ynghylch y gamdriniaeth a gafwyd. Roedd 37 y cant o gynghorwyr wedi teimlo'n ofnus o ganlyniad i'r gamdriniaeth (Ffigur 2).

Profodd 30 y cant aflonyddwch ar y cyfryngau cymdeithasol a derbyniodd 28 y cant negeseuon e-bost ymosodol neu fygythiol. Mae 40 y cant o gynghorwyr wedi derbyn o leiaf un math o gamdriniaeth wedi'i galluogi gan dechnoleg.

 

Ceir cydberthynas gref ac arwyddocaol rhwng dioddef camdriniaeth ar-lein a theimladau ynghylch diogelwch. Mae 59 y cant o gynghorwyr a ddioddefodd aflonyddwch ar-lein wedi teimlo'n ofnus wrth gyflawni eu dyletswyddau. Ond rheswm arall posib am hyn yw bod cydberthynas yn aml yn bodoli rhwng camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a mathau eraill o gamdriniaeth. Cafodd 25 y cant o'r rhai yr aflonyddwyd arnynt ar-lein hefyd eu bygwth ac roedd gan 12 y cant wedi cael profiadau lle'r oedd pobl yn loetran wrth ymyl eu cartref neu'r gwaith.

 

Ni ofynnai'r arolwg yn benodol i gynghorwyr a oeddent wedi dioddef ymgyrchoedd i bardduo enw da neu fod yn destun straeon. Fodd bynnag, roedd yn cynnwys cwestiwn penagored yn gofyn iddynt ddisgrifio'r profiad a oedd wedi effeithio arnynt fwyaf. Mae dadansoddiad ansoddol o'r cwestiwn penagored hwn yn awgrymu bod lledaenu sibrydion neu gamwybodaeth a thwyllwybodaeth am gynghorwyr yn arfer cyffredin, a bod hynny'n eithriadol o niweidiol i lesiant cynghorwyr, a'u gallu i gyflawni eu dyletswyddau. Er nad oes modd cyfrif mynychder yr arfer ar hyn o bryd, mae cyfweliadau pellach a gynhaliwyd â chynghorwyr yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn. Soniwyd am ledaenu sibrydion i ddwyn anfri ar bobl neu bardduo enw da fel un o'r dulliau mwyaf cyffredin a dinistriol a ddefnyddir i fygwth ac aflonyddu ar gynghorwyr.

 

Ymateb cynghorwyr i gamdriniaeth

Mewn cwestiwn penagored, gofynnai'r arolwg am ddisgrifiad o unrhyw gamau a gymerwyd mewn ymateb i ymddygiad amhriodol a brofwyd fel cynghorydd. Dengys dadansoddiad o'r cwestiwn penagored (ffigur 3) fod bron hanner y cynghorwyr a oedd wedi profi aflonyddwch ar-lein heb wneud unrhyw beth i ymateb i hynny (49 y cant). Mae'r gyfran fawr o gynghorwyr a benderfynodd beidio cymryd unrhyw gamau'n 0 10 20 30 40 50 60 Heb wneud unrhyw beth Wedi hysbysu’r cyngor neu’r gwasanaethau democrataidd Wedi delio â’r gamdriniaeth fy hun Canran y cynghorwyr a brofodd ymateb emosiynol Ymateb cynghorwyr i aflonyddwch a bygythiadau awgrymu eto fod camdriniaeth mewn gwleidyddiaeth wedi'i normaleiddio i raddau. Mae hyn hefyd yn awgrymu canfyddiad nad yw'r mecanweithiau sydd ar gael ar hyn o bryd yn effeithlon neu'n ddigonol i ymdrin â'r broblem. Dangosir hyn mewn sylwadau a wnaed gan gynghorwyr:

 

“Dim [gweithredu]. Ni fyddai unrhyw beth yn cael ei wneud ynglŷn â'r peth"

“Dim. Doeddwn i ddim am waethygu'r sefyllfa na chodi at yr abwyd."

“Na, oherwydd byddai'n fy llethu'n emosiynol, yn cymryd llawer iawn o amser, ac ni fyddai'n cael ei gymryd o ddifri. Fy mhryder mwyaf yw bwlio a chamdriniaeth ac aflonyddwch ar-lein, fel gwefan cyfryngau cymdeithasol Next Door. Nid wyf yn defnyddio'r wefan mwyach yn anffodus oherwydd hyn."

Nododd cynghorwyr eraill eu bod wedi ymdrin â'r gamdriniaeth eu hunain (12 y cant), yn llwyddiannus mewn rhai achosion, ac yn aflwyddiannus mewn achosion eraill. Er enghraifft, penderfynodd un cynghorydd ddod oddi ar y cyfryngau cymdeithasol:

 

“Do, mi wnes i ddal fy nhir. Mae hyn wedi digwydd mor aml, dois yn wydn i lawer ohono. Rhoddais y gorau i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am flwyddyn i roi seibiant i mi fy hun - doeddwn i ddim yn eu colli, ond yn ddiweddar ailymunais am gyfnod byr. Fodd bynnag, roedd y cyfnod hir o fwlio a natur ddifrifol y bwlio a ddioddefais fel cynghorydd plwyf, cyn imi ddod yn gynghorydd dosbarth, wedi cael effaith niweidiol ar fy iechyd meddwl, ac rwy'n dioddef PTSD a gorbryder o ganlyniad i hynny."

 

Mae'n bwysig tynnu sylw yma at rôl gwasanaethau democrataidd a'r aelodau o ran cefnogi cynghorwyr sy'n delio â chamdriniaeth, gan mai dyma'r cam mwyaf cyffredin a gymerir mewn ymateb i hynny (16 y cant).

 

“Wedi siarad â'r gwasanaethau democrataidd ac erbyn hyn yn eu defnyddio fel cyswllt e-bost a chael gwared â'm cyfeiriad e-bost o wefan y Cyngor."

“Wedi cysylltu â'r Gwasanaethau Democrataidd am gyngor"

“Cysylltais â gwasanaethau democrataidd y fwrdeistref er mwyn gofyn iddynt sut i ymateb. Ar un achlysur, gofynnodd y gwasanaethau imi roi ateb a oedd yn awgrymu bod y cwestiwn uwchlaw fy nghyfrifoldebau fel cynghorydd. Ni wnaeth hynny rwystro'r preswylydd rhag parhau â'i ymholiad”

"Wedi ffonio'r heddlu. Gwnes yn siŵr fod y gwasanaethau democrataidd yn cael gwybod. Gwnes yn siŵr fod y Swyddog Monitro yn cael gwybod os oedd yr ymddygiad yn ymwneud â chŵyn. Ymatebais yn uniongyrchol gyda neges 'cytuno i anghytuno' glir a digynnwrf, a chais i'r unigolyn beidio ymosod arnaf yn bersonol'. Mewn un achos, rhwystrais unigolyn o'm tudalen Facebook".

 

Y cam nesaf mwyaf cyffredin oedd hysbysu'r Heddlu (11 y cant). Mae'r cwestiynau penagored yn amlygu pa mor anodd yw cael yr Heddlu i weithredu. Un rheswm a grybwyllir yn aml gan gyfranogwyr yw bod mwy nag un unigolyn yn cam-drin, nad oes modd adnabod drwgweithredwyr yn hawdd, a'r trothwy uchel y mae'n rhaid ei gyrraedd er mwyn i'r Heddlu ymwneud â'r achos.

 

“Riportiais y mater ddwywaith i'r Heddlu pan oedd y drwgweithredwr yn aelod o'r cyhoedd yr oeddwn yn gallu ei adnabod. Fe wnes i riportio bygythiadau gan [wedi'i ddileu am resymau preifatrwydd] a dywedodd yr Heddlu wrthym fod hyn i gyd yn rhan o sgarmes gwleidyddiaeth."

“Bob tro y byddai'r drwgweithredwr yn gwneud rhywbeth, byddwn yn ei nodi a'i riportio ar 101. Ymhen amser, ar ôl iddo dynnu lluniau o'm cartref o'm lawnt flaen, fe wnes ei riportio wrth yr Heddlu a wnaeth ymweld ag ef, a gwnaethom osod TCC. Parhaodd i stelcio holl aelodau fy nheulu a chyd-gynghorwyr ar ôl hynny hyd yn oed."

“Cysylltais â'r Heddlu, roedden nhw'n teimlo mod i o bosib yn poeni gormod"

 

Dim ond lleiafrif o gynghorwyr a benderfynodd rwystro cyfrifon neu ddileu cynnwys. Mae'n bosibl bod hyn oherwydd dymuniad i ymgysylltu â thrigolion, ac i ymddangos yn agored i ymgysylltu â nhw, neu ddiffyg dealltwriaeth ynghylch y gwahanol offer preifatrwydd a gynigir gan lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol.

 

Gwersi o Gymru

Mae tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Senedd yn 2019 yn awgrymu bod y darlun yn debyg yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor fod cynrychiolwyr etholedig wedi profi bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu yn rhan o’u bywydau cyhoeddus, a bod ofni profiadau o’r fath yn rhwystr i lawer o ddarpar ymgeiswyr. O'r cynghorwyr a gymerodd ran yn arolwg y pwyllgor, roedd chwarter wedi profi camdriniaeth, bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddwch gan bobl yn eu cymuned leol; roedd un o bob pump (19.2 y cant) wedi profi camdriniaeth o'r tu mewn i'r cyngor; roedd un o bob deg (11.8 y cant) wedi profi camdriniaeth o'r tu mewn i'w plaid neu grŵp gwleidyddol. Dim ond traean o gynghorwyr nad oeddent wedi profi ymddygiad o'r fath yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Mae adroddiad llawn y pwyllgor, "Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol", ar gael ar-lein.

 

Gwersi yn sgil dadansoddi'r data

Mae'r data'n rhoi cipolwg allweddol o'r ddynameg wrth wraidd bygwth ac aflonyddu ar gynghorwyr ar-lein. Mae'n dangos bod cam-drin ar lein yn gyffredin a bod cydberthynas rhwng hynny a mathau eraill o gamdriniaeth gorfforol a seicolegol. Mae'r arolwg hefyd yn dangos bod aelodau o'r cyhoedd a chynghorwyr eraill, fel ei gilydd, yn cam-drin, a bod hynny'n arwain at ganlyniadau emosiynol. O ddadansoddi'r cwestiwn penagored, gwelir yr anawsterau a wynebir gan gynghorwyr wrth ymdrin yn effeithiol â'r gamdriniaeth, gyda chyfran sylweddol ohonynt yn penderfynu gwneud dim, neu'n teimlo bod dim y gellir ei wneud er mwyn ymateb yn effeithiol. Mae'r atebion hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael mecanweithiau sefydliadol clir ac effeithiol i ddelio â'r gamdriniaeth, a sefydliadau sy'n cynnig cymorth amserol.

 

Mae'r adran ganlynol yn rhoi trosolwg o fentrau cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol i ymdrin â'r broblem aflonyddu a bygwth ar-lein. I gloi'r adran nodir cyfyngiadau dulliau cyfredol, sy'n amlygu'r angen i symud oddi wrth fesurau ymatebol sy'n delio â'r gamdriniaeth ar ôl iddi ddigwydd tuag at ddull mwy rhagweithiol ac ataliol.

 

Dulliau newydd ac arfer gorau

Gellir rhannu arferion cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol i bedwar grŵp yn fras:

  • Datrysiadau TG
  • Hyfforddiant
  • Gwella ymateb yr Heddlu
  • Llywodraethu a Rheoleiddio Llwyfannau

 

Mae'r adran hon yn disgrifio pob un ohonynt ac yn rhoi rhai enghreifftiau sy'n deillio o arfer gorau cenedlaethol a rhyngwladol.

 

Datrysiadau TG

Mewn ymateb i bwysau cymdeithasol a gwleidyddol eang i ymdrin â niwed ar-lein ac aflonyddu ar-lein, mae llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol wedi datblygu eu canllawiau a'u hegwyddorion cymedroli. Mae hyn yn cynnwys defnyddio dysgu peirianyddol i ganfod iaith fygythiol yn awtomatig. Drwy hynny, bydd cyfathrebiadau a nodir yn fygythiol neu'n ymosodol yn cael eu dileu'n awtomatig neu'n cael eu hanfon at godwyd dynol a all benderfynu ar y ffordd orau o weithredu: nodi postiadau, gwahardd cyfrifon dienw, a hwyluso'r broses o adnabod drwgweithredwyr a chael gwared â chynnwys. (xiii)

 

Mae'r dull hwn yn ffordd ymarferol iawn i ymdrin â symiau mawr o ddata. Ond mae'n creu rhai heriau. Yn gyntaf, nid yw ymagweddau dysgu peirianyddol yn dal i ymdrin â choegni neu fygythiadau sydd ymhlyg. (xiv) Mae a wnelo'r ail her â pha mor ddifrifol y bydd llwyfan yn dewis ymdrin ag aflonyddwch, sy'n amrywio ar draws llwyfannau. (xv) Gall y diffyg eglurder a chysondeb ar draws llwyfannau beri dryswch i rai defnyddwyr. Ar ben hynny, mae cwmnïau technegol wedi'u lleoli mewn gwahanol wledydd a chanddynt wahanol dirluniau gwleidyddol ac yn cael eu defnyddio gan gynulleidfaoedd amlddiwylliannol. Mae'r amrywio yma'n golygu bod rhywfaint o gynnwys problematig yn dal i gael ei ganiatáu tra bo mynegiadau a thrafodaethau gwleidyddol eraill yn cael eu tawelu.

 

Mae hi hefyd yn bwysig cofio nad yw llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol yn niwtral. Mae eu halgorithmau'n adlewyrchu gogwydd gymdeithasol, yn ogystal â buddiannau masnachol. Mae cymedroli yn golygu mwy na nodi a dileu cynnwys yn awtomatig; mae'n cynnwys penderfyniadau'n amrywio rhwng israncio a lleihau amlygrwydd cynnwys, rhoi cynnwys mewn "cwarantîn", cael gwared â chyfeiriadau at gynnwys, ychwanegu label, rhybudd neu wybodaeth atodol/esboniadol, rhybuddio defnyddwyr cyn cyhoeddi cynnwys neu wahardd defnyddwyr rhag defnyddio'r parth cymdeithasol yn llwyr. (xvi) Mae protocolau cymedroli cynnwys y rhan fwyaf o gwmnïau technegol yn dal i fod yn aneglur, ac nid ydynt yn datgelu eu canllawiau manwl ynghylch ystyr iaith casineb ac aflonyddu, na'u dull o weithredu'r canllawiau hynny.xvii Ceir pwysau eang i gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol fod yn fwy tryloyw ynghylch eu polisïau a'u protocolau. (xviii)

 

Ceir pryder hefyd yn gysylltiedig â defnydd masnachol o'r data wrth gymedroli. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn goroesi ac yn ffynnu wrth i ddefnyddwyr ymgysylltu â hwy, sy'n cynyddu cymhellion i ddylanwadu ar ddefnyddwyr a dylunio algorithmau sy'n dod â rhai ohonynt i gysylltiad â thrafodaethau pegynedig. (xix)

 

Yn aml, nid yw cwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol ond wedi cyflwyno newidiadau i'w polisïau pan fydd sylw gan y cyhoedd yn dilyn digwyddiadau o bwys yn eu gorfodi i wneud hynny. Ceir goblygiadau moesegol y mae angen mynd i'r afael â hwy cyn trosglwyddo hyd yn oed mwy o rym sensoriaeth i gorfforaethau mawr. Yn ogystal â hynny, mae cymedroli a nodi llawer iawn o gynnwys yn dal yn ddull ymatebol nad yw ond yn ymdrin â chynnwys ar ôl iddo gael ei ddarllen a'i gylchredeg.

 

Arfer da drwy ddefnyddio technoleg a dysgu peirianyddol i ymdrin â chynnwys problematig

Mae AretoLabs, menter gymdeithasol, wedi creu ParityBOT, sef bot sy'n canfod trydariadau problematig ynghylch ymgeiswyr benywaidd ac yn ymateb gyda negeseuon cadarnhaol, gan weithredu fel mecanwaith monitro ac ffordd o gadw'r ddysgl yn wastad. Defnyddiwyd ParityBOT yng Nghanada yn ystod yr etholiad ffederal yn 2019, ac yn etholiad Alberta yn 2019, yn Seland Newydd yn ystod etholiadau cenedlaethol 2020, ac yn yr Unol Daleithiau ar gyfer etholiad 2020.

 

Mae Twitter yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i frwydro cynnwys amhriodol ar ei lwyfan. Yn dilyn beirniadaeth am ganiatáu i rai trydariadau a oedd yn groes i reolau aros ar Twitter, ymatebodd Twitter yn 2019 drwy gyhoeddi hysbysiad newydd yn egluro bod rhai trydariadau yn parhau i fod ar gael os ystyriwyd eu bod o fudd i'r cyhoedd, hyd yn oed os oeddent fel arall yn groes i'w rheolau. Wrth symud ymlaen, roeddent yn cydnabod bod angen taro cydbwysedd rhwng caniatáu mynegiant rhydd, meithrin atebolrwydd, a lleihau'r niwed posibl a achosir gan y trydariadau. Dechreuodd y cwmni osod sgrin-hysbys a oedd yn cynnwys gwybodaeth gyd-destunol ac eglurhad yr oedd yn rhaid i'r cyhoedd glicio drwyddi cyn gweld y trydariad. Mae'r newidiadau'n berthnasol i swyddogion llywodraeth wedi'u dilysu, cynrychiolwyr neu ymgeiswyr am swydd o fewn y llywodraeth a chanddynt fwy na 100,000 o ddilynwyr.

 

Ers 2020, mae Twitter hefyd wedi bod yn rhagweithiol o ran gweithredu strategaethau i leihau lledaeniad camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Mae'n yn ei gwneud hi'n haws canfod gwybodaeth gredadwy drwy gyflwyno labeli a rhybuddion uwch ben trydariadau sy'n cynnwys cyfryngau synthetig a chyfryngau wedi'u trin, neu wybodaeth sy'n destun dadl neu gamarweiniol yn gysylltiedig â COVID-19. Mae'r labeli hyn yn cynnwys dolen i dudalen wedi'i chasglu gan Twitter neu ffynhonnell allanol arall yr ymddiriedir ynddi sy'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am yr honiadau a wneir yn y trydariad.

 

Hyfforddiant

Mae'r grŵp hwn o strategaethau yn cynnwys ymgyrchoedd sy'n anelu i godi ymwybyddiaeth a chynyddu gwybodaeth am aflonyddu ar-lein, yn ogystal â mentrau sy'n ceisio hyfforddi unigolion mewn bywyd cyhoeddus ar hunanamddiffyn digidol. Nod y mentrau hyn yw rhoi'r sgiliau angenrheidiol i bobl allu defnyddio'r offer ar-lein sydd ar gael iddynt, ac aros yn ddiogel ar-lein, er enghraifft, drwy rwystro defnyddwyr camdriniol, defnyddio cyfrineiriau diogel, adnabod sgamiau a defnyddio gosodiadau preifatrwydd.

 

Arfer da wrth hyfforddi unigolion mewn bywyd cyhoeddus ar hunanamddiffyn digidol a chodi ymwybyddiaeth

Mae Canllaw'r LGA a CLlLC ar Ymdrin â Bygythiadau a Chanllaw Cyfryngau Cymdeithasol CLlLC i Gynghorwyr yn cynnwys strategaethau a chynghorion i aros yn ddiogel ar-lein ac oddi-ar-lein mewn swyddi cyhoeddus. Mae'r mentrau eraill ar hunanamddiffyn digidol yn cynnwys The Cybersecurity Campaign Playbook gan Brifysgol Harvard a Dealing with digital threats to democracy: a toolkit to help women in public life be safer online gan Glitch.

 

Mae Anti-Harassment Guidelines: A Toolkit for Commonwealth Parliamentarians yn ganllaw ymarferol sy'n ceisio rhoi diffiniad o aflonyddwch, ac ymdrin ag ymddygiad gwenwynig yn y gweithle, ar-lein ac oddi-ar-lein. Roedd ymgyrch fyd-eang #NotTheCost y Sefydliad Democrataidd Cenedlaethol (NDI) a'r Undeb Rhyng-Seneddol yn anelu i godi ymwybyddiaeth, casglu gwybodaeth, a chynyddu capasiti ymhlith partneriaid yng nghyswllt trais yn erbyn menywod mewn gwleidyddiaeth. Ar yr un pryd roedd yn adeiladu consensws a chydweithredu ar draws rhanddeiliaid er mwyn creu diffiniad clir o'r broblem, gwella prosesau casglu data i wella eiriolaeth a chanfod dulliau eraill o rwystro hyn.

 

Mewn cydweithrediad â sefydliad Körber-Stiftung a phrif sefydliadau awdurdodau lleol yn yr Almaen, lansiodd llywodraeth yr Almaen wefan eleni yn arbennig i roi gwybodaeth a chymorth i wleidyddion lleol sy'n profi aflonyddwch, bygythiadau neu unrhyw fath o drais. Mae'r wefan yn ganolbwynt gwybodaeth am hawliau a rhwymedigaethau gwleidyddion, mesurau ataliol ac arfer da digidol i fynd i'r afael â chamdriniaeth.

 

Mae Sweden wedi mabwysiadu ffyrdd pwysig i atal camwybodaeth a thwyllwybodaeth rhag lledaenu. Yn 2018, diweddarodd Asiantaeth Argyfyngau Sifil Sweden ei lyfryn parodrwydd am argyfwng cyhoeddus i gynnwys adran am wybodaeth anghywir, gan rybuddio ynghylch ymgyrchoedd twyllwybodaeth posibl o wledydd tramor, a chynnwys rhestr o bethau y gall dinasyddion eu gwneud i wirio ffeithiau mewn gwybodaeth ar-lein. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd llywodraeth Sweden y byddai'n lansio asiantaeth newydd, sef yr Asiantaeth Amddiffyn Seicolegol. Y nod yw i'r Asiantaeth ddechrau gweithredu yn 2022, a bydd yn canolbwyntio ar amddiffynfeydd seicolegol ac ar drechu camwybodaeth yn Sweden drwy nodi, dadansoddi a brwydro yn erbyn ymgyrchoedd dylanwadu.

 

Gwella ymateb yr Heddlu

Mae'r Heddlu'n chwarae rhan allweddol er mwyn hyrwyddo mynediad dioddefwyr at gyfiawnder, drwy ymchwilio i achosion o gam-drin, aflonyddu a bygwth ar-lein. Ceir peth tystiolaeth fod rhoi hyfforddiant i swyddogion Heddlu yn newid agweddau tuag at ddioddefwyr er gwell. (xx)

 

Fodd bynnag, bu sefydliadau'n araf wrth ymateb i'r newidiadau cymdeithasol cyflym a ysgogwyd gan lefelau cynyddol o gynnwys wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddwyr ar-lein, gan gynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol. Dylai swyddogion gorfodi'r gyfraith sy'n brwydro yn erbyn aflonyddu ar-lein feddu ar y sgiliau, y gallu a'r sensitifrwydd i gymhwyso'r gyfraith mewn modd cynhwysfawr a chefnogi dioddefwyr. Serch hynny, gan fod hon yn broblem mor fawr, mae llawer o heddluoedd yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o adnoddau na'r cymwysterau i ddelio â chamdriniaeth ar-lein. (xxi) Gan gydnabod hyn, mae rhai heddluoedd wedi sefydlu unedau heddlu penodol i ymdrin ag aflonyddu ar-lein, wedi cynyddu cyllidebau i ymdrin â'r broblem, ac wedi sefydlu hyfforddiant gorfodol i swyddogion.

 

Ar y llaw arall, ceir rhwystrau ymarferol eraill sy'n atal yr Heddlu rhag ymateb yn effeithiol. Mae angen i'r Heddlu adnabod drwgweithredwyr, ond i wneud hyn mae angen iddynt ofyn i lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol gael gwared â chyfrifon dienw, a all gymryd cryn amser. Yn ogystal â hynny, ceir achosion lle gall dioddefwyr camdriniaeth adnabod y drwgweithredwr, ond lle nad yw'r achos yn cyrraedd y trothwy'r Heddlu i gychwyn ymchwiliad. Yn olaf, nid yw'n glir sut y gall yr Heddlu a'r system gyfreithiol ymdrin ag aflonyddwch ar-lein o natur gronnus, lle na cheir yn aml un drwgweithredwr y gellir ei adnabod.

 

Cafwyd rhai ymdrechion i droi camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn drosedd. Er enghraifft, mae llywodraeth yr Eidal wedi creu porthol ar-lein lle gall pobl adrodd am straeon celwydd. Caiff yr adroddiadau wedyn eu trosglwyddo i uned o fewn yr Heddlu sy'n gyfrifol am ymchwilio i seiberdroseddu, a fydd yn gwirio'r ffeithiau ac, os oes angen, yn cymryd camau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae doethinebwyr ac academyddion, fel ei gilydd, wedi ymateb yn negyddol i gamau sy'n galluogi'r Heddlu i wirio ffeithiau.

 

Enghreifftiau o arfer da

Yn Lloegr yn 2017, sefydlodd yr Heddlu Metropolitanaidd yr uned gyntaf o fewn yr Heddlu a oedd yn ymdrin yn benodol â throseddau casineb ar-lein, wedi'i chyllido gan Swyddfa'r Maer ar gyfer yr Heddlu a Throseddu. Ychydig o achosion sydd wedi cael eu herlyn oherwydd trothwy uchel Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer casineb ar-lein, a'r anawsterau a wynebir gan ymchwilwyr wrth geisio cael gwybodaeth gan gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol. Er hynny, mae'n sicr y gall swyddogion heddlu ddefnyddio hyn fel cyfle i feithrin arbenigedd. Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch faint o heddluoedd yn y DU sy'n cynnwys uned arbennig ar gyfer seiberdroseddu ar hyn o bryd.

 

Yn Seland Newydd, mae Deddf Cyfathrebu Digidol Niweidiol 2015 wedi sefydlu asiantaeth cwynion a chyfryngu arbennig, NetSafe, i ymdrin ag achosion o aflonyddwch drwy negeseuon testun, negeseuon e-bost, gwefannau, apiau neu bostiadau'r cyfryngau cymdeithasol. Y nod yw cynnig ffordd gymharol gyflym a rhwydd i leihau niwed, gan gynnwys tynnu postiadau neu negeseuon niweidiol i lawr neu eu hanalluogi, gan roi lle priodol i bobl gael rhyddid i'w mynegi eu hunain. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys adrannau ar sut i osgoi sgamiau a chanfod camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar-lein. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020, derbyniodd Netsafe gyfanswm o 6,800 o adroddiadau, 51 y cant o gynnydd o gymharu â'r chwarter blaenorol.

 

Llywodraethu a rheoleiddio

Mae llywodraethau ledled y byd wedi ceisio mabwysiadu deddfwriaeth i gyfrif am rôl newidiol technolegau digidol mewn gwleidyddiaeth. Mae dulliau deddfwriaethol yn canolbwyntio ar ddisgrifio camdriniaeth ar-lein a rhoi deddfwriaeth ategol ar, er enghraifft, cyfathrebiadau sy'n pardduo enw da neu fygythiol. Rhoddwyd sylw neilltuol i reoleiddio ymgyrchoedd bwrw sen a lledaenu camwybodaeth, oherwydd gall cudd-weithredwyr tramor eu defnyddio fel dulliau o ymyrryd ag etholiadau. Er mwyn cyflawni rhai newidiadau deddfwriaethol, mae hefyd angen cydreoleiddio rhwng llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a'r llywodraeth a sefydlu mecanweithiau i sicrhau bod cwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol yn fwy atebol a chynyddu tryloywder.

 

Arferion da wrth lywodraethu a rheoleiddio

Yng Nghymru cytunodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i'r egwyddor o gyfeirio rhai cwynion yn erbyn cynghorwyr yn ôl i'w datrys yn lleol gan gynghorau, ac mae'r Ombwdsmon wedi datblygu Protocol Datrysiadau Lleol Enghreifftiol i Gynghorau Tref a Chymuned. Nid yw'n trafod aflonyddu ar-lein na lledaeniad camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn benodol, ond yn hytrach mae'n sefydlu llwybrau i ymdrin yn lleol ag aelodau yr honnir nad ydynt wedi dangos parch neu ystyriaeth at eraill - boed hynny mewn ysgrifen neu ar lafar.

 

I gydnabod y defnydd cynyddol o wefannau'r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio yng ngweithgarwch cyfathrebu cynghorwyr, mae rhai cynghorau wedi dylunio polisïau ar gyfer cyfathrebu a'r cyfryngau cymdeithasol i gyd-fynd â'r cod ymddygiad. Nod y polisïau hynny yw rhoi canllawiau i gynghorwyr a staff ynghylch eu cyfrifoldebau wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Mae Cyngor Swydd Gaerloyw, Cyngor Tref Chard a Bwrdeistref Tower Hamlets yn Llundain ymhlith cynghorau sydd wedi llunio polisïau clir a chynhwysfawr.

 

Yn y DU, gall aflonyddu ar-lein fod yn drosedd o dan y Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997 (yng Nghymru a Lloegr a chydag adran ar wahân yn yr alban) a Gorchymyn Diogelu rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997. Gall cynnwys sy'n sarhaus, yn anweddus, yn anllad neu'n fygythiol fod yn drosedd o dan Ddeddf Cyfathrebu Maleisus 1988 neu Ddeddf Cyfathrebu 2003 (xxii) (Cymru a Lloegr) ac a38 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu 2010 (Yr Alban). Mae Drafft y Mesur Diogelwch Ar-lein yn cynnig dyletswydd gofal i gwmnïau technegol i fynnu eu bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros ddiogelwch eu defnyddwyr, ac ymdrin â'r niwed a achosir gan gynnwys neu weithgarwch ar eu gwasanaethau. Mae hyn yn addasu rôl cwmnïau technegol, o fod yn arsyllwyr goddefol dros drafodaethau, i fod yn hwyluswyr a chymedrolwyr gweithredol. Disgwylir y bydd y Mesur Hygrededd Etholiadol sydd ar ddod yn trafod bygwth ymgeiswyr a dylanwad amhriodol, ac argraffnodau digidol o ddeunyddiau etholiadol, er na fydd y Mesur hwnnw'n berthnasol i bob gwlad yn y DU.

 

Byddai'r newidiadau hyn yn gwneud deddfwriaeth ar draws y DU yn debycach i ddeddfwriaeth gwledydd eraill fel yr Almaen, lle mae'r Ddeddf Gorfodi Rhwydweithio yn gorfodi cwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol i gael gwared â iaith casineb a chynnwys troseddol, neu wynebu dirwy bosibl o €50 miliwn. Fodd bynnag, bu'r ddeddfwriaeth hon yn ddadleuol, gan fod ansicrwydd ynghylch lle y dylid tynnu llinell rhwng atal lledaeniad iaith casineb a chyfyngu ar ryddid mynegiant.

 

Yn ddiweddar, diweddarodd y Comisiwn Ewropeaidd y rheolau ar gyfer gwasanaethau digidol yn yr UE drwy ddwy ddau gynllun deddfwriaethol: Y Ddeddf Gwasanaethau Digidol a'r Ddeddf Marchnadoedd Digidol. Nodau'r Deddfau yw creu gofod digidol mwy diogel lle bydd hawliau sylfaenol holl ddefnyddwyr gwasanaethau digidol yn cael eu gwarchod, a sicrhau chwarae teg er mwyn meithrin arloesedd, twf a'r gallu i gystadlu, ym Marchnad Sengl Ewrop a hefyd yn fyd-eang.

 

Er nad yw wedi'i rwymo mewn cyfraith, mae'n werth cyfeirio yma at y Cod Ymarfer ar gyfer Twyllwybodaeth, sy'n rhan o strategaeth ddigidol yr UE i frwydro yn erbyn twyllwybodaeth, oherwydd potensial ei gyrhaeddiad graddfa eang. Mae'n sefydlu safonau hunanreoleiddiol gwirfoddol i gynyddu tryloywder mewn hysbysebion gwleidyddol, hwyluso cau cyfrifon ffug a dirymu ffynonellau twyllwybodaeth. Yn yr UD, cyhoeddodd yr Arlywydd Biden y byddai Tasglu ar gyfer Aflonyddu a Cham-drin Ar-lein yn cael ei sefydlu i ddatblygu strategaethau ar gyfer llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol, llywodraeth ffederal a thaleithiol, er mwyn nodi ac atal aflonyddu rhywiol, bygythiadau a phornograffi dial.

 

Mae deddfwriaeth gliriach yn gam ymlaen a groesawir er mwyn ymdrin ag aflonyddu ar-lein. Mae hynny'n arbennig o wir gan na ellir dadlau bod deddfwriaeth yn newid ymddygiad, nid yn unig ar lefel yr unigolyn, ond hefyd ymhlith cwmnïau. Fel cam arloesol er mwyn ymdrin â diffyg tryloywder, pasiodd Canada Ddeddf Moderneiddio Etholiadau (Mesur C-76) er mwyn osgoi ymyrraeth gan wledydd tramor mewn etholiadau, ac ysgogi Facebook Canada i lansio'r offeryn Facebook Ads Library (FAL) i roi rhagor o wybodaeth i'r cyhoedd am yr hysbysebion gwleidyddol y byddant yn eu gweld ar-lein. I gyd-fynd â'r rheoliad hwn ceir buddsoddiad mewn rhaglenni llythrennedd digidol er mwyn brwydro yn erbyn twyllwybodaeth.

 

Cyfyngiadau

Mae croeso mawr i fentrau cyfredol sy'n ymdrin ag aflonyddu ar-lein yn y maes cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'n debyg na fyddant yn cael rhyw lawer o effaith oherwydd swm yr aflonyddu ar-lein yr ydym yn ei weld, a natur sensitif-i-amser y broblem sy'n datblygu o hyd. Ar ben hynny, mae rhan helaeth o'r rhain yn canolbwyntio ar ymdrin â chamdriniaeth neu wybodaeth anghywir ar ôl i'r niwed gael ei achosi, yn hytrach na'i atal. Mae gan gynghorwyr ac aelodau o'r cyhoedd hawl i gymryd rhan yn rhydd yn y broses ddemocrataidd heb ofni unrhyw niwed. Felly ochr yn ochr â'r dulliau ymatebol hyn, dylid hefyd ystyried dull rhagweithiol sy'n adfywiogi addysg ddinesig ac yn rhoi'r pwyslais ar ddatblygu sgiliau digidol a dadansoddol.

 

Gwaith a chyngor ychwanegol i wella gwarineb mewn bywyd cyhoeddus

Ochr yn ochr â'r adroddiad hwn, rydym wedi cyhoeddi canllaw ymarferol i gynghorwyr sy'n amlinellu'r dull rhagweithiol o wella gwarineb mewn bywyd cyhoeddus. Mabwysiadwyd y canllaw hwn, sy'n trafod sut i ymdrin ag aflonyddwch a bygythiadau ar-lein, gan yr LGA, CLlLC, COSLA a NILGA, ac mae'n cynnwys gwella dinasyddiaeth ddigidol. Mae'r adnoddau yn y ddogfen honno'n cynnwys rheolau ymgysylltu enghreifftiol, a chanllawiau i osgoi lledaenu camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Mae'r rhain yn deillio o ymgynghoriad helaeth ymhlith cynghorwyr a swyddogion sy'n eu cefnogi, ac adolygiad o'r deunydd darllen a'r arferion gorau diweddaraf.

 

Roedd cyhoeddiad diweddar Intimidation in Public Life: a joint statement on conduct of political party members gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn deillio o waith helaeth a gyflawnwyd gan Sefydliad Jo Cox a'r CSPL i annog pleidiau i gydweithio a chytuno ar safonau ymddygiad sylfaenol yn ystod ymgyrchoedd


i Rossini P. Beyond Incivility: Understanding Patterns of Uncivil and Intolerant Discourse in Online Political Talk. Communic Res 2020. doi:10.1177/0093650220921314.

ii Tambini D. The differentiated duty of care: a response to the Online Harms White Paper. J Media Law 2019;11:28–40. doi:10.1080/17577632.2019.1666488.

iii Collignon S, Rüdig W. Lessons on the Harassment and Intimidation of Parliamentary Candidates in the United Kingdom. Polit Q 2020

iv LGA. Councillors’ guide to handling intimidation. 2019

v EIGE. Cyber Violence (Crimes) Against Women and Girls. 2017. doi:10.17501/wcws.2016.1101

vi Smokowski PR, Evans CBR. Bullying and Victimization Across the Lifespan. Bullying Victim Across Lifesp 2019:107–22. doi:10.1007/978-3-030-20293-4

vii Lumsden K, Harmer E. Online Othering: Exploring Violence and Discriminaiton in the Web. Basingstoke: Palgrave Macmillan; 2019. doi:10.1007/978-3-030-12633-9

viii James D, Sukhwal S, Farnham FR, Evans J, Barrie C, Taylor A, et al. Harassment and stalking of Members of the United Kingdom Parliament: associations and consequences. J Forensic Psychiatry Psychol 2016;27:309–30. doi:10.1080/14789949.2015.1124909.

ix Krook ML. Violence Against Women in Politics. J Democr 2017;28:74–88. doi:10.1353/jod.2017.0007.

x Collignon S, Rüdig W. Lessons on the Harassment and Intimidation of Parliamentary Candidates in the United Kingdom. Polit Q 2020 xi Collignon S, Rüdig W. Increasing the Cost of Female Representation? Violence towards Women in Politics in the UK. Forthcoming 2021

xii Prabhakaran V, Waseem Z, Akiwowo S, Vidgen B. Online Abuse and Human Rights: WOAH Satellite Session at RightsCon 2020. Proc. ofthe Fourth Work. Online Abus. Harms, Association for Computational Linguistics; 2020, p. 1–6. doi:10.18653/v1/2020.alw-1.1

xiii Prabhakaran V, Waseem Z, Akiwowo S, Vidgen B. Online Abuse and Human Rights: WOAH Satellite Session at RightsCon 2020. Proc. ofthe Fourth Work. Online Abus. Harms, Association for Computational Linguistics; 2020, p. 1–6. doi:10.18653/v1/2020.alw-1.1

xiv Rezvan M, Shekarpour S, Alshargi F, Thirunarayan K, Shalin VL, Sheth A. Analyzing and learning the language for different types of harassment. PLoS One 2020;15. doi:10.1371/journal.pone.0227330

xv Pater JA, Kim MK, Mynatt ED, Fiesler C. Characterizations of online harassment: Comparing policies across social media platforms. Proc Int ACM Siggr Conf Support Gr Work 2016;13-16-Nove:369–74

xvi Pershan C. Moderating our (dis)content: Renewing the regulatory approach. Association for Computational Linguistics; 2020

xvii Pater JA, Kim MK, Mynatt ED, Fiesler C. Characterizations of online harassment: Comparing policies across social media platforms. Proc Int ACM Siggr Conf Support Gr Work 2016;13-16-Nove:369–74

xviii Prabhakaran V, Waseem Z, Akiwowo S, Vidgen B. Online Abuse and Human Rights: WOAH Satellite Session at RightsCon 2020. Proc. ofthe Fourth Work. Online Abus. Harms, Association for Computational Linguistics; 2020, p. 1–6. doi:10.18653/v1/2020.alw-1.1

xix Rossini P. Beyond Incivility: Understanding Patterns of Uncivil and Intolerant Discourse in Online Political Talk. Communic Res 2020. doi:10.1177/0093650220921314

xx Mckee Z, Mueller-Johnson K, Strang H. Impact of a Training Programme on Police Attitudes Towards Victims of Rape: a Randomised Controlled Trial. Cambridge J Evidence-Based Polic 2020;4:39–55. doi:10.1007/s41887-020-00044-1.

xxi Millman C, Winder B, Griffiths M. D. UK-based police officers’ perceptions of, and role in investigating, cyber-harassment as a crime. International Journal of Technoethics, 8, 87- 102. Int J Technoethics 2017;8:87–102.

xxii DCMSC. Disinformation and ‘fake news.’ Digit Cult Media Sport Committee, House Commons 2019;Final Repo:1–10

https://www.wlga.cymru/gwella-dinasyddiaeth-ddigidol-ymchwil-ac-arfer-da