CLILC

 

Eglurder ynglyn â threfniadau cyllido yn y dyfodol yn “hanfodol” i ddyfodol cymunedau gwledig, medd Fforwm Wledig CLlLC

  • RSS
Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf 2019 Categorïau: Datblygu economaidd, cynllunio, trafnidiaeth ac adfywio Newyddion
Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf 2019

Mae eglurder o ran trefniadau cyllido yn y dyfodol yn “hanfodol” i sicrhau bod cymunedau gwledig yn cael eu cefnogi wedi Brexit, yn ôl cynrychiolwyr awdurdodau gwledig yn siarad yr wythnos yma o faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Bu cyd gadeiryddion Fforwm Wledig CLlLC, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn a’r Cynghorydd Rosemarie Harris, yn cyfarfod â phartneriaid allweddol yn y digwyddiad i drafod cynigion diwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cymunedau gwledig ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio canfod barn ar y cynigion yma, fel rhan o’i ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris (Powys), Cyd Gadeirydd y Fforwm Wledig:

“Ein cymunedau gwledig yw asgwrn cefn Cymru. Yn ogystal â bod yn gartref i ffermwyr sy’n chwarae rôl allweddol yn darparu bwyd a chynnal ein tirluniau eiconig, mae’r cymunedau yma’n cwmpasu clytwaith gwirioneddol o ystod o lefydd gwahanol sydd i gyd â’u cymeriad unigryw unigol eu hunain o ran daearyddiaeth, demograffi ac economïau.

“Dwi’n falch iawn i fod wedi cael y cyfle i gwrdd yn anffurfiol â rhai o’n partneriaid allweddol i drafod y cynigion yma. Mae’n bwysig i ni gael y trafodaethau yma, er mwyn i ni allu darparu ymateb yn fwy cynhwysfawr i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd), Cyd Gadeirydd y Fforwm Wledig:

“Mae Cymru yn wlad sydd wedi’i chymeriadu i raddau helaeth gan ei hardaloedd gwledig niferus, ac mae’n glir y bydd angen cefnogaeth ar ein cymunedau gwledig wedi gadael yr UE. Ond mae’r ansicrwydd ychwanegol sy’n cael ei gynrychioli gan oedi Arolygiad Gwariant Llywodraeth y DU, a heb lawer o fanylion ar gael o ran sut y bydd trefniadau datblygu gwledig yn cael eu hefelychu wedi Brexit, mae cymunedau gwledig yn enwedig yn cael eu gadael yn y niwl.”

“I’r cymunedau hynny allu paratoi hyd orau eu gallu ar gyfer y newidiadau, mae eglurder o ran trefniadau cyllido yn y dyfodol yn gwbl hanfodol. Mae hyfywedd ein economïau gwledig i’r dyfodol yn dibynnu ar ein gallu i lwyddo i ffurfio trefniadau newydd i gymryd lle trefniadau’r UE, ac i gynnal buddsoddiad teg yn y cymunedau yma”

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

https://www.wlga.cymru/future-funding-clarity-crucial-for-rural-communities-future-says-wlga-rural-forum