Lansio cynlluniau Bwyd a Hwyl ar draws Cymru ar gyfer gwyliau'r haf

Dydd Llun, 29 Gorffennaf 2019

Bydd mwy o gynlluniau Bwyd a Hwyl nag erioed yn cael eu rhedeg ar draws Cymru yr haf hwn, yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc i gymdeithasu a mwynhau prydau bwyd iachus.

Rhaglen wedi’i lleoli mewn ysgolion yw Bwyd a Hwyl, sydd wedi’i ariannu yn rhannol gan Lywodraeth Cymru a sy’n cael ei gydlynu gan CLlLC. Darperir y cynlluniau yn lleol gan staff ysgol a phartneriaid gan ddarparu prydau iachus, addysg bwyd a maeth, a gweithgareddau corfforol i blant mewn awyrgylch cymdeithasol hwyliog yn ystod gwyliau’r haf.

Ers y cynllun peilot yn 2016, mae’r rhaglen wedi tyfu yn aruthrol bob blwyddyn, gyda 4,200 o blant yn mynd i fuddio o gynlluniau lleol yn eu hardaloedd nhw ar draws Cymru yr haf hwn. Golyga hyn y bydd 48% yn fwy o ddisgyblion na’r llynedd yn buddio o’r cyfleon a ddarperir gan y rhaglen eleni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Rwy’n falch iawn bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, drwy weithio mewn partneriaeth, yn gallu cefnogi teuluoedd ar adeg sy’n gallu bod yn heriol dros y gwyliau.

“Nôd y rhaglen Bwyd a Hwyl yw i ddod a deilliannau cadarnhaol i deuluoedd a phobl ifanc sy’n cymryd rhan trwy roi cyfleoedd i gymdeithasu, dysgu a mwynhau prydau iachus blasus. Dengys twf syfrdanol y rhaglen mewn cyfnod o dair mlynedd yn unig bod cymunedau yn gweld gwerth aruthrol yn y cynlluniau yma, a dwi’n gyffrous i weld sut y bydd y rhaglen eleni yn darparu’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan gyda phrofiadau a chyfleoedd a fydd yn gwella eu bywydau.”

 

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Trwy weithio mewn partneriaeth gyda CLlLC, mae ein rhaglen Bwyd a Hwyl yn helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd, yn gwella iechyd a llesiant ein plant, ac yn helpu rhai pobl ifanc i oresgyn unigedd cymdeithasol yn ystod gwyliau’r ysgol.”

“Mae’n wych gweld bod mwy o ysgolion nag erioed yn rhedeg y cynlluniau yma eleni fel bod hyd yn oed mwy o bobl ifanc yn gallu gwneud y mwyaf ohonyn nhw.”

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

  • Am fwy o wybodaeth am y raglen Bwyd a Hwyl, ewch i www.wlga.cymru/food-and-fun
  • Am fwy o wybodaeth am gynlluniau lleol, cysylltwch â’ch awdurdod lleol

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30