Cynnydd ariannol sylweddol cyntaf mewn 12 mlynedd yn cael ei groesawu gan CLlLC

Dydd Llun, 16 Rhagfyr 2019

Mae CLlLC heddiw wedi croesawu setliad “cadarnhaol” ar gyfer cynghorau y flwyddyn nesaf a fydd yn gweld cynghorau yn derbyn y cynnydd mwyaf mewn 12 mlynedd o ran cyllid craidd.

 

Bydd cynghorau yn derbyn hwb o 4.3% yn y cyllid sy’n cael ei ddyrannu iddyn nhw’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gynnal gwasanaethau lleol. Mae cyllid cyfalaf ychwanegol hefyd wedi cael ei neilltuo ar gyfer buddsoddiad mewn isadeiledd.

 

Ers cychwyn y cynni ariannol yn 2010, mae gwasanaethau lleol wedi ysgwyddo dros £1bn o doriadau sy’n golygu bod cynghorau wedi gorfod blaenoriaethu’n ofalus a gwneud penderfyniadau anodd iawn. Er bod setliad y flwyddyn nesaf yn ryddhad i awdurdodau lleol, mae’r rhagolwg o ran cyllid yn parhau i fod yn heriol. Bydd yn rhaid i gynghorau barhau i wneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu gwasanaethau, gan gynnwys cynyddu’r dreth gyngor i gwrdd a’r diffyg ariannol.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC ac Arweinydd y Grŵp Llafur:

“Fel Arweinydd newydd CLlLC, rwy’n croesawu’r setliad eithriadol o dda yma. Rydyn ni’n hapus fod ein ymgysylltu cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru wedi talu ar ei ganfed ar gyfer ein gwasanaethau, ein gweithlu ac ein trigolion. Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi bod yn cwrdd â nifer o Weinidogion sydd wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn oedd gennym ni i ddweud ac yn cydnabod yr effaith ddinistriol mae cynni wedi ei gael ar wasanaethau lleol a gweithwyr rheng flaen.

 

“Hoffwn i ddiolch i’r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Julie James, Gweinidog Cyllid a Threfnydd, Rebecca Evans, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford. Mae nhw wedi dangos ymrwymiad amlwg i lywodraeth leol. Mae gwasanaethau lleol yn hanfodol i gadw pobl yn iach ac i ffwrdd o ystafelloedd aros ein hysbytai, a mae’n hollbwysig eu bod nhw’n derbyn y cyllid sydd ei angen arnyn nhw.”

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Mae llywodraeth leol yn rhannu’r un blaenoriaethau â Llywodraeth Cymru. Bydd arweinwyr ledled Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio i’n hysgolion i wella cyflawniadau addysgol, ac i ofal cymdeithasol i sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn derbyn y gofal y mae nhw ei angen.

 

“Trwy gydol y cynni ariannol, mae cynghorau wedi rheoli eu cyllidebau’n ofalus, gan wneud arbedion effeithlonrwydd bob blwyddyn. Wedi degawd o doriadau dwfn a dinistriol, roedden ni’n brysur agosáu at gyrraedd y pen. Rwy’n gobeithio fod y setliad yma’n nodi cychwyn siwrnai hollol wahanol.”

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox OBE (Sir Fynwy), Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC:

“Rwyf wedi fy siomi gyda’r setliad yma. Rhoddodd Lywodraeth y DU ddigon o gyllid i Lywodraeth Cymru i wneud lawer gwaith gwell na hyn, a mae nhw unwaith eto wedi methu llywodraeth leol yng Nghymru. Ymhellach, rydyn ni’n gweld gwahaniaethau mawr yn y cyllid sy’n cael ei dderbyn gan rai cynghorau o gymharu ag eraill. Mae gwahaniaeth o rhwng 3% a 5.4% yn hurt y dyddiau yma. Rhaid gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r amrywiad yma.”

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:

“Mae’r setliad cadarnhaol heddiw yn cydnabod yr heriau a wynebir gan gyllidebau awdurdodau lleol o ran pwyseddau’r gweithlu a demograffig. Mae’r £184m ychwanegol yn gynnydd i’w groesawu wedi blynyddoedd o ostyngiadau mewn termau real. Ond nid yw’n cwrdd â’r holl bwyseddau a bydd awdurdodau lleol yn dal i wynebu penderfyniadau anodd, a bydd angen ystyried yn ofalus sut y bydd y dreth gyngor yn pontio’r bylchau mewn cyllidebau.”

“Ni fydd yn dadwneud y £1bn o doriadau sydd wedi ei dynnu o goffrau llywodraeth leol ers 2009-10, ond rwy’n gobeithio ei fod yn cychwyn ar batrwm gwahanol. Rydyn ni wedi colli tua 37,000 o swyddi o fewn llywodraeth leol ers 2009-10, sydd yn cynnwys athrawon a swyddogion rheng flaen. Does yr un arweinydd yn camu i’r byd gwleidyddol i wneud penderfyniadau o’r fath. Gyda’r cyllid sydd nawr ar gael, gallwn ni ddechrau amddiffyn ein gwasanaethau craidd, yn enwedig ysgolion a gwasanaethau gofal.”

 

 

Y Cynghorydd Hugh Evans OBE (Sir Ddinbych), Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

“Dyma’r setliad gorau y mae llywodraeth leol wedi ei weld ers 2007-08, ac yn nodi cam i gyfeiriad gwahanol o ran y cyllid grant y mae llywodraeth leol yn ei dderbyn. Er mwyn gallu cynllunio’n well i’r dyfodol ac i roi mwy o sicrwydd i’n trigolion, mae cynghorau angen fframwaith cyllidebol aml-flwyddyn fwy cadarn fel ein bod ni’n gallu delio ag atal ac ymyrraeth gynnar mewn cyd-destun fwy hir dymor.”

“Bydd Adolygiad Gwariant y flwyddyn nesaf yn cynnig cyfle i wynebu hynny a rwy’n edrych ymlaen i drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru o ran mwy o hyblygrwydd fel ein bod ni’n gallu canfod atebion cynaliadwy hir-dymor i gyllid lleol. Rwy hefyd yn pryderu am sut y mae’r setliad yn amrywio ar draws yr awdurdodau, a byddaf yn edrych i ganfod sut y gallwn ni ddatrys hynny.”

-DIWEDD-

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30