CLILC

 

Digwyddiad cyntaf o’i fath i hybu llesiant awtistig

  • RSS
Dydd Gwener, 05 Ebrill 2019 Categorïau: Newyddion Tîm Datbygu ASA Cenedlaethol
Dydd Gwener, 05 Ebrill 2019

Daeth pobl awtistig ynghyd yn Stadiwm Liberty, Abertawe ddydd Mercher, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, mewn digwyddiad cyffrous i ddysgu mwy am lesiant a sut i fyw bywydau annibynnol.

Croesawyd dros 150 o bobl awtistig i'r gynhadledd, a gafodd ei ddatblygu a’i chynhyrchu ar y cyd gan bobl awtistig. Cafwyd ystod o sesiynau cyffrous ar yr agenda ar y dydd, yn cyfrannu i wella dealltwriaeth o lesiant cyfan gan gynnwys iechyd meddwl, ymarfer corff, addysg bellach, ioga a heneiddio’n dda, i enwi ond rhai.

Clywodd gynadleddwyr hefyd gan Jules Robertson, lladmerydd awtistig ac actor ar y rhaglen Holby City, a oedd yn trafod ei brofiadau o’r cyflwr.

Cafodd y gynhadledd ei chydlynu gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (Tîm Datblygu Awtistiaeth Cenedlaethol gynt) mewn partneriaeth gyda NAS Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gweilch, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe.

 

Yn siarad cyn y digwyddiad. dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Ar ôl misoedd o gynllunio, rwy’n falch bod y Gynhadledd Genedlaethol Cymru gyntaf – Hybu Llesiant Awtistig – yn cymryd lle fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd.

“Mae unigolion awtistig wedi dweud yn gyson eu bod yn teimlo’n ‘anweledig’ o ran digwyddiadau allweddol yn y gymuned. Mae’r adborth yma wedi’i glywed yn glir gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, ac mae’r gynhadledd yma – sydd wedi’i datblygu a’i chynhyrchu ar y cyd gan bobl awtistig, ar gyfer pobl awtistig – yn ymateb yn uniongyrchol i hynny.

“Rwyf wir yn gobeithio bod gan yr agenda rywbeth i'w gynnig i bawb gan gynnig cyngor defnyddiol ac ymarferol o ran hybu llesiant ac i ddangos sut i fyw bywydau annibynnol.”

 

Hefyd yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’r digwyddiad heddiw yn darparu cyfle gwerthfawr i drafod yr heriau unigryw mae pobl awtistig yn eu wynebu yn eu bywydau o ddydd-i-ddydd ac yn edrych ar ffyrdd i gynnal a hybu llesiant. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau integredig newydd I wella cefnogaeth i bobl awtistig a’u teuluoedd.”

 

 

https://www.wlga.cymru/first-of-its-kind-event-to-promote-autistic-wellbeing