Mae rôl bwysig i’r awdurdodau lleol ynglŷn â gwella economi Cymru, nid yn unig trwy fentrau datblygu economaidd penodol ond trwy greu’r amgylchiadau economaidd er ffyniant masnachol, hefyd. Trwy eu gwasanaethau, mae’r awdurdodau lleol ar flaen y gad o ran cynnal yr isadeiledd cludo angenrheidiol, defnyddio pwerau rheoleiddio mewn meysydd megis iechyd amgylcheddol a chynllunio, gwella mannau cyhoeddus, gwella medrau trigolion i’w helpu i ddod o hyd i swyddi a gweithio gyda’r bobl sydd heb weithio ers tro trwy fentrau megis Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf a Rhaglen Cymunedau ar gyfer Gwaith.
Mae’r awdurdodau lleol yn bartneriaid allweddol i Lywodraeth Cymru mewn amryw raglenni yn y maes hwn megis Fframwaith yr Adfywio Strategol, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Chymunedau’n Gyntaf.
Yn ddiweddar, mae’r awdurdodau lleol wedi bod yn cymryd rhan mewn datblygiadau economaidd rhanbarthol megis rhanbarthau dinasol y de-ddwyrain a’r de-orllewin, Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd, Partneriaeth Tyfu’r Canolbarth a’r amryw bartneriaethau medrau rhanbarthol yn y gogledd, y de-orllewin, y canolbarth a’r de-ddwyrain. Yn wir, yr awdurdodau lleol sy’n arwain rhai o’r mentrau hynny. Yn y de-ddwyrain, maen nhw’n gyrru cytundeb dinasol â Llywodraeth San Steffan. Un o brif agweddau’r cytundeb hwnnw yw cludiant a chysylltiadau megis prosiect rheilffordd y Metro.
Dyma’r heriau ym maes datblygu economaidd:
- Gweithredu’n wasanaeth uchel ei barch ym maes llywodraeth leol (bydd WLGA yn gofyn i ddatblygu economaidd fod yn ddyletswydd statudol).
- Manteisio i’r eithaf ar yr arian sydd ar gael i brosiectau datblygu ac adfywio economaidd gan gynnwys cadw holl dwf trethi busnes.
- Cymryd rhan flaengar ynglŷn ag economi a medrau pob rhanbarth.
- Ystyried gweithgareddau newydd ynghylch budd-daliadau a helpu pobl i ddychwelyd i waith.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin