CLILC

 

Coronafeirws: Datganiad ar y cyd gan CLlLC a Llywodraeth Cymru

  • RSS
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2020 Categorïau: Gwasanaethau diogelu’r cyhoedd Newyddion
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2020

Datganiad ar y cyd gan y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Julie James, ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Y Cyng Andrew Morgan

 

“Rydyn ni’n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus, sydd â’r potensial i effeithio nifer fawr o bobl ar draws Cymru ac i amharu’n fawr ar fywyd pob dydd.

“Rydyn ni’n gwybod fod pobl yn poeni. Os gweithiwn ni gyda’n gilydd, fe allwn ni orchfygu’r heriau gyda’n gilydd.

“Mae gwasanaethau llywodraeth leol wrth galon pob cymuned yng Nghymru. Dibynnir arnynt gan blant, oedolion a’r henoed pob dydd ymhob rhan o Gymru. Bydd y coronafeirws yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus – wrth i’r galw am wasanaethau allweddol gynyddu, bydd llai o bobl ar gael i’w darparu nhw.

“Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i ymateb i’r feirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau fod gan lywodraeth leol y gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol wrth i ni wynebu’r argyfwng gyda’n gilydd.”  

                                                                                                                                                                              

DIWEDD

https://www.wlga.cymru/coronavirus-joint-statement-by-wlga-and-welsh-government