Cydnabod llwyddiannau sylweddol Arweinydd CLlLC yn y Rhestr Anrhydeddau

Dydd Mawrth, 10 Medi 2019

Mae Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, wedi cael ei chreu yn Farwnes yn Rhestr Anrhydeddau ymddiswyddo y cyn Brif Weinidog Theresa May.

Caiff y Cynghorydd Wilcox ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i addysg a llywodraeth leol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Llywydd CLlLC:

“Dyma newyddion ardderchog i Debbie yn bersonol ac ar ran pawb o fewn llywodraeth leol. Mae Debbie wedi gwasanaethu’r cyhoedd trwy gydol ei hoes, fel athro, cynghorydd ac yn fwy diweddar fel arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a CLlLC.

“Mae’r fraint haeddiannol yma yn cydnabod ei hymroddiad a’i chyfraniad sylweddol. Ers iddi gymryd yr awenau yn CLlLC, mae Debbie wedi gweithio yn ddiflino fel pencampwr dros ddemocratiaeth leol ac wrth gymryd pob cyfle posib i hyrwyddo llywodraeth leol.

“Mae hi’n gyfathrebwr heb ei hail ac yn gadarn wrth amddiffyn democratiaeth ac atebolrwydd lleol, a rwy’n siŵr y bydd yn parhau i fod yn ladmerydd cryf drostyn nhw wrth iddi gymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.”

 

Mae’r Farwnes Wilcox wedi bod yn Arweinydd CLlLC ers Mehefin 2016, ble y mae hi hefyd yn gwasanaethu fel llefarydd dros Addysg, a hi hefyd yw Cynrychiolydd Rhanbarthol Cymru ar Fwrdd Gweithredu y Gymdeithas Lywodraeth Leol (LGA). Mae’n gwasanaethu fel Aelod Cabinet dros Sgiliau ar gyfer Rhanbarth Dinas Caerdydd.

Wedi bod yn Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ers Mai 2016, mae hi wedi cynrychioli ward Gaer y ddinas yn barhaus ers iddi gael ei hethol i’r awdurdod yn gyntaf yn 2004.

Cyn iddi gychwyn ar ei gyrfa gwleidyddol, bu’r Farwnes Wilcox yn gweithio fel uwch arolygydd ac athro am dros 35 mlynedd, sydd wedi arwain iddi gymryd diddordeb neilltuol mewn addysg yn ystod ei gyrfa fel cynghorydd.

 

-DIWEDD-

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30