Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’r Cabinet newydd, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):
“Hoffwn longyfarch Alun Davies AC ar ei benodiad fel yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Lywodraeth Leol. Mae eisoes wedi dangos dycnwch, brwfrydedd ac ymroddiad di-gwestiwn yn ei rôl flaenorol fel Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ac edrychaf ymlaen i barhau i weithio ag ef yn ei rôl newydd.”
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Mark Drakeford AC am ei waith yn arwain portffolio llywodraeth leol. Yn hanesyddol, teg yw dweud nad yw’r berthynas rhwng llywodraeth leol a chanolog wastad wedi bod yn rhwydd. Ond mae’r dull cynhwysol, adeiladol a phartneriaethol a gymerodd Mark yn ei gyfnod yn y rôl wedi dod a llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i ddeall eu gilydd yn well er mwyn gwneud cynnydd gyda’n gilydd mewn ystod o faterion, yn cynnwys diwygio llywodraeth leol ac ymateb i heriau ariannol eithriadol.”
“Edrychwn ymlaen i barha i weithio gyda Mark Drakeford AC yn ei rôl fel Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, a gyda Alun Davies AC fel yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol.”