CLILC

 

CLlLC yn ymateb i fap diwygio bysiau Llywodraeth Cymru

  • RSS
Dydd Mawrth, 05 Mawrth 2024 Categorïau: Datblygu economaidd, cynllunio, trafnidiaeth ac adfywio Newyddion
Dydd Mawrth, 05 Mawrth 2024

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd a Llefarydd Trafnidiaeth WLGA:

“Ar ran CLlLC, rwy’n croesawu’r amcanion a nodir yn y llwybr. Mae’r llwybr yn adlewyrchu dull partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid allweddol eraill.

“Mae gwella profiad y cyhoedd sy’n teithio yn ganolog i’r newidiadau arfaethedig. Gall gwasanaethau masnachfraint, os cânt eu cynllunio'n dda i adlewyrchu angen, fod o fudd nid yn unig i ddefnyddwyr bysiau presennol ond, yn bwysig, i yrwyr ceir sy'n cael eu darbwyllo i newid moddau teithio, gan leihau tagfeydd a llygredd. Gall gwasanaethau bws da greu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

“Mae angen i ni ddatblygu cylch rhinweddol o gynyddu nifer y teithwyr gan arwain at fwy o refeniw a all gefnogi mwy o wasanaethau, gan ddenu mwy fyth o deithwyr dros amser. Drwy gydlynu’r dull hwn ledled Cymru, a defnyddio brandio cyson, gall hefyd greu ymdeimlad o drafnidiaeth gyhoeddus gydlynol, hygyrch ac integredig ledled y wlad.

“Mae gan awdurdodau lleol ran allweddol i’w chwarae wrth gefnogi’r gwaith hwn gan ei fod yn cael ei gyflwyno dros nifer o flynyddoedd ac rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bws dibynadwy o safon i’n cymunedau.”

https://www.wlga.cymru/-clllc-yn-ymateb-i-fap-diwygio-bysiau-llywodraeth-cymru