CLILC

 

Ymateb CLlLC i'r ymosodiadau ar Wcrain

  • RSS
Dydd Iau, 03 Mawrth 2022 Categorïau: Newyddion Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru
Dydd Iau, 03 Mawrth 2022

Yn ymateb i'r ymosodiadau brawychus ar yr Wcrain, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae pawb ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wedi eu brawychu o weld y digwyddiadau erchyll sydd ar droed yn yr Wcrain."

"Nid oes cais i ailsefydlu wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan Lywodraeth y DU.

"Mae cynghorau yn brofiadol o ran helpu i ailsefydlu pobl o wledydd sydd wedi eu heffeithio gan ryfeloedd, a byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu i gefnogi ymdrechion o'r fath."

 

http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-ukraine-invasion