CLILC

 

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru – Rhwydwaith Gwres (Caerdydd)

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Dydd Mercher, 19 Ionawr 2022 13:09:00

Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.  

 

Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu rhwydwaith o bibellau gwres newydd o losgydd Bae Caerdydd i leihau’r defnydd ynni sy’n gysylltiedig â gwresogi adeiladau cyhoeddus amhreswyl yng Nghaerdydd. Disgwylir y bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £26.5 miliwn a bydd wedi’i gwblhau erbyn 2022, gydag arbedion carbon tybiedig o 5600 CO2e bob blwyddyn.

http://www.wlga.cymru/welsh-local-government-decarbonisation-planning-review-interventions-–-heat-network-cardiff