CLILC

 

Cyllideb y DU: “Rhowch sicrwydd hir dymor i wasanaethau cyhoeddus Cymru”

  • RSS
Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2020 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2020

Mae CLlLC heddiw yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i fuddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus yn y Gyllideb yr wythnos yma.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae gwasanaethau lleol yn gonglfeini ein cymdeithas ni. Mae cyn gymaint o bobl yn dibynnu ar wasanaethau megis addysg, gofal cymdeithasol a diogelu’r cyhoedd i enwi ond rhai. Mae’n hollbwysig eu bod yn cael eu hamddiffyn a bod Cyllideb y DU yn cydnabod hynny.

“Rhoddodd gyhoeddiad Medi diwethaf o gyllid ychwanegol hwb i’w groesawu i Gyllideb Cymru. Ond os yw Llywodraeth y DU o ddifri am lefelu’r wlad, ni all hyn fod yn gynnig untro gwag. Rhaid i’r lefel hwnnw o gyllid gael ei gynnal os ydi ein gwasanaethau am ffynnu yn wyneb pwyseddau cynyddol.

“Golyga godiadau yng nghostau’r gweithlu a phensiynau, ynghyd â chostau chwyddiant eraill, bod llywodraeth leol yn wynebu pwyseddau o £254m yn y flwyddyn ariannol nesaf.

“Dros yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gweld effeithiau newid yn yr hinsawdd yn glir i bawb eu gweld ar draws Cymru, gyda bil sydd yn siwr o redeg i gannoedd o filiynau i glirio’r llanast. Golyga newid hinsawdd y bydd digwyddiadau tywydd o’r fath yn digwydd yn ddychrynllyd o gyson yn y dyfodol. Byddwn ni’n edrych tuag at y Gyllideb ar gyfer buddsoddiad cyfalaf newydd sylweddol i gyllido’r gwaith adfer, ac i adeiladu gwytnwch yn erbyn y bygythiad dwysaf yr ydyn ni, a chenedlaethau’r dyfodol, yn ei wynebu.

“Bydd cynghorau hefyd yn edrych i Gyllideb y DU am gyllid ychwanegol i gefnogi eu gwaith yn helpu i ymateb i’r achosion coronavirus, ac hefyd i sicrhau bod gwasanaethau diogelu’r cyhoedd gyda’r gallu a’r adnoddau i barhau i ddarparu eu swyddogaethau eraill. Wrth i’r feirws barhau i ledaenu’n gyflym, mae gwasanaethau megis gofal cymdeithasol yn debygol o gael eu heffeithio o ganlyniad i ddefnyddwyr gwasanaeth yn contractio’r feirws, ynghyd a goblygiadau cost o ran y cynnydd tebygol mewn absenoldebau staff cyngor.

“Gyda’r sylw ar hyn o bryd ar y llifogydd diweddar a’r coronavirus, dylem ni ddim anghofio bydd cyfnod newid Brexit yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr. Gyda’r canlyniadau o ran bargeinion masnachu yn y dyfodol yn dal i fod yn ansicr, dylem ni baratoi am effeithiau ar economiau lleol ac unrhyw bwyseddau ychwanegol ar wasanaethau llywodraeth leol.”

-DIWEDD-

http://www.wlga.cymru/uk-budget-give-welsh-public-services-long-term-security