CLILC

 

Cefnogi pobl ifanc trwy’r argyfwng

  • RSS
Dydd Llun, 29 Mehefin 2020 Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion
Dydd Llun, 29 Mehefin 2020

Mae cynghorau yng Nghymru wedi canmol gweithwyr ieuenctid am eu rôl gwerthfawr yn cefnogi pobl ifanc yn ystod yr argyfwng presennol.

Wrth nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni, mae llywodraeth leol wedi cydnabod sut mae gweithwyr ieuenctid wedi addasu yn gyflym i sicrhau eu bod yn gallu darparu cefnogaeth i bobl ifanc yn eu cymunedau. Trwy ystod o gyfleon dysgu, a gweithgareddau cymdeithasol rhithiol, mae nhw wedi bod yn allweddol i helpu pobl ifanc ddeall canllawiau gan Lywodraeth Cymru ac i’w hannog nhw i gydymffurfio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir Y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod dryslyd i’n pobl ifanc ni. Er y llu o heriau, mae gweithwyr ieuenctid wedi dod i’r adwy i’w cefnogi nhw mewn amryw o ffyrdd. O gynnal cwisiau a gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein, i helpu i staffio hybiau gofal plant ac i godi ymwybyddiaeth o ganllawiau’r llywodraeth, mae nhw wedi chwarae rhan bwysig mewn amgylchiadau anodd.

“Pob blwyddyn, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn rhoi cyfle i ni i ddiolch i’r gweithwyr sydd yn helpu i gefnogi a datblygu ein pobl ifanc. Eleni, mae eu gwaith wedi bod yn bwysicach nag erioed. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn y gwaith mae nhw wedi ei wneud, ac y byddan nhw’n parhau i’w wneud dros y misoedd i ddod.”

-DIWEDD-

http://www.wlga.cymru/supporting-young-people-through-the-crisis