CLILC

 

"Dangoswch nad oes lle mewn cymdeithas i drais yn erbyn menywod"

  • RSS
Dydd Iau, 25 Tachwedd 2021 Categorïau: Cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol Newyddion
Dydd Iau, 25 Tachwedd 2021

Dylai sgyrsiau ynglŷn ag atebolrwydd am drais yn erbyn menywod ganolbwyntio ar ymddygiad y cyflawnwyr yn lle ymddygiad y dioddefwyr yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wrth i'r byd gofio Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.

Heddiw [Dydd Iau 25 Tachwedd] yw Diwrnod y Rhuban Gwyn hefyd, sy'n dechrau 16 diwrnod o weithredu gyda'r nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. Mae hynny'n cynnwys gofyn i ddynion a bechgyn herio ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr a'u cymunedau.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

"Rwy am anfon neges glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy'n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad. Mae trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer.

"Nod Diwrnod y Rhuban Gwyn a'r 16 diwrnod o weithredu yw grymuso dynion a bechgyn i herio ymddygiadau amhriodol, pan fo'n ddiogel i wneud hynny, a chynnig cymorth. Mae angen gweithredu ar y ddwy ochr er mwyn mynd i'r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod; rhaid i ni gefnogi goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad.

"Dim ond drwy wneud hynny y gallwn ni sicrhau diwylliant o gydraddoldeb a pharch mewn gwirionedd - rhywbeth y mae angen i bob un ohonon ni ei feithrin er mwyn gwneud yn siŵr bod modd i bob unigolyn fyw heb ofn."

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llywydd CLlLC:

"Mae pob math o drais yn erbyn menywod yn parhau'n bla erchyll yn ein cymunedau. Mae'n ffaith syfrdanol bod dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner neu gyn-bartner, a bod 10,000 o fenywod yn cael eu cam-drin yn rhywiol bob wythnos yng Nghymru a Lloegr. Rhaid i bob un ohonon ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i roi terfyn ar yr ymddygiadau ffiaidd hyn. Mae'r sector llywodraeth leol wedi ymrwymo'n llwyr i weithio tuag at wireddu'r uchelgais hwn."

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldeb:

"Bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod yn rhoi cyfle i bob un ohonon ni ystyried y ffordd yr ydyn ni'n ymddwyn. Does dim esgus yn y byd dros gyfiawnhau unrhyw drais neu gamdriniaeth o'r fath. Rwy'n annog pawb ym mhob un o'n cymunedau i ddangos eu cefnogaeth drwy dyngu Llw y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, na gwneud esgus am drais gan ddynion yn erbyn menywod, na chadw'n ddistaw amdano. Gallwn ni sefyll gyda'n gilydd a chodi'n llais, i ddangos nad oes lle yn ein cymdeithas i ymddygiadau ffiaidd o'r fath."

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2020 i 2021 heddiw. Bwriedir hefyd lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y ffordd y gall Cymru gryfhau ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf ar 7ed Rhagfyr 2021.

Bydd hyn yn canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod ar ein strydoedd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

http://www.wlga.cymru/show-that-there-is-no-place-in-society-for-violence-against-women