Cynhadledd Genedlaethol Gwerth Cymdeithasol: Cymru

17/11/2020


AM DDIM

Mae'n bleser gan y Social Value Portal a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyhoeddi Cynhadledd Genedlaethol Gwerth Cymdeithasol gyntaf: Cymru, digwyddiad digidol a fydd yn lansio Fframwaith Mesur Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru, a elwir fel arall yn TOMs Cenedlaethol Cymru. Mae hon yn garreg filltir bwysig ar gyfer gwella arferion a bydd yn caniatáu i sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector nid yn unig i fesur ac adrodd ar gaffael gwerth cymdeithasol, ond hefyd i adrodd ar sut maent yn cyfrannu at gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Bydd y digwyddiad yn rhedeg dros 17 ac 18 Tachwedd 2020 ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi mai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol fydd ein prif siaradwr, gyda chyfraniadau gan ystod o sefydliadau eraill sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad TOMs Cenedlaethol Cymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn ogystal â nifer o gynghorau blaenllaw yn Lloegr sydd wedi bod yn defnyddio'r TOMs, gan gynnwys Durham, Star Procurement a Chyngor Solihull.

 

Dyluniwyd y digwyddiad i nid yn unig helpu sefydliadau i ddeall sut i gynyddu gwerth cymdeithasol i'r eithaf gan ddefnyddio'r TOMs,, ond bydd hefyd yn cynnwys nifer o sesiynau gwaith manwl yn edrych ar gaffael, gwerthuso a rheoli contractau.

 

Bydd y digwyddiad ar gyfer pob sector a bydd mynychwyr hefyd yn clywed gan fusnesau sydd eisoes yn sicrhau gwerth cymdeithasol. Gyda diolch arbennig i'n prif noddwr Bouygues UK, a'n noddwr aur ISG.


Gallwch gofrestru yma

RHAGLEN cliciwch yma

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!


 

 Postiwyd gan WLGA
 29/10/2020

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30