CLILC

 

“Marathon nid sbrint” yw’r ymateb i COVID

  • RSS
Dydd Gwener, 29 Mai 2020 Categorïau: Gwasanaethau diogelu’r cyhoedd Newyddion
Dydd Gwener, 29 Mai 2020

Mae arweinwyr cyngor heddiw wedi croesawu agwedd pwyllog y Prif Weinidog heddiw wrth gymryd camau cymedrol i leddfu’r clo yng Nghymru yn araf bach.

O ddydd Llun ymlaen, bydd pobl o ddau gartref gwahanol yn yr un ardal leol yn gallu cwrdd tu allan tra’n cynnal y rheol o aros 2 fedr ar wahân.

Bydd yn rhaid i bawb yng Nghymru gydymffurfio â’r canllawiau newydd sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Rwy’n croesawu’r dull pwyllog y mae’r Prif Weinidog wedi ei arddangos heddiw wrth amlinellu’r camau nesaf i ail-agor ein cymdeithas. Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer wedi bod yn pryderu am fethu gweld teulu a ffrindiau dros y misoedd diwethaf. Bydd yr addasiad bach yma o ddydd Llun yn galluogi pobl i weld eu gilydd, ond mae’n rhaid i ni i gyd i barhau i ymddwyn yn gyfrifol ac i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Wrth i ni symud i gyfnod nesaf wrth ymateb i coronafeirws, bydd y gwaith eginol o brofi, olrhain ac amddiffyn yn hollbwysig i oresgyn yr haint yn y pen draw.”

“Mae pobl ar draws Cymru wedi bod yn ardderchog yn glynu at reolau Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf, sydd wedi ein galluogi ni i lefelu’r gromlin. Ond marathon nid sbrint yw’r frwydr yn erbyn coronafeirws. Rydyn ni’n deall bod y cyfradd R mewn rhai rhannau o Gymru yn dal i fod yn agos i 1 o hyd, felly dyma pam y mae’n rhaid i ni barhau i gymryd gofal.”

“Mae’r camau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn cynnig caniatâd i ni i gael cysylltiad gyda ein gilydd yn gyfrifol. Ond dyw ddim yn wahoddiad agored i ymddwyn yn ddi-hid. Bydd y penderfyniadau y bydd pob un ohonom ni y neu cymryd nawr yn dylanwadu’n fawr ar ein llwyddiant i atal ymlediad yr haint. Peidiwch a bod y person hynny, mewn blynyddoedd i ddod, sydd yn difaru na wnaethoch chi bethau’n wahanol. Rhaid i ni i gyd gadw’n gall ac yn gyfrifol i gadw Cymru’n saff.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir Y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer o rieni a gofalwyr yn poeni am ysgolion, ac mae awdurdodau lleol yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, undebau athrawon a rhanddeiliaid eraill. Diogelwch a lles ein plant, athrawon a staff yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd, ac mae’r Gweinidog Addysg yn gyson wedi gwneud yn glir y bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu tywys gan y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.”

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion: Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth am y newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw: https://llyw.cymru/aros-yn-lleol-i-ddiogelu-cymru

http://www.wlga.cymru/covid-response-a-marathon-not-a-sprint