CLILC

 

Llwyddiant i Bartneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru

  • RSS
Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2021 Categorïau: Newyddion Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru
Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2021

Cydnabyddwyd Partneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru yng Ngwobrau Heddlu Dyfed Powys 2021 am eu gwaith yn cydlynu’r ymateb i gartrefu ceiswyr lloches mewn baracs y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhenalun, Sir Benfro.

Bu’r Bartneriaeth, sy’n cael ei chynnal gan CLlLC, yn arwain ar yr ymateb aml-asiantaeth i gydlynu cefnogaeth ar gyfer y ceiswyr lloches oedd yn aros ar y safle a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Gartref fel lloches dros dro rhwng Medi 2020 a Mai 2021.

Canolbwynt llawer o’r gwaith oedd sicrhau bod gan y bobl oedd wedi eu cartrefu ar y safle fynediad i’r holl wasanaethau oedd eu hangen - gan gynnwys  iechyd, cefnogaeth o’r sector wirfoddol a chyngor cyfreithiol – a sicrhau bod y cyngor lleol a’r holl bartneriaid yn gallu ymateb i’r materion oedd ynghlwm ag agoriad y safle. Bu sefydlu’r safle a gwneud yn siŵr fod ceiswyr lloches wedi eu cefnogi’n llawn, ynghyd a sicrhau cydymffurfiaeth a rheoliadau Covid-19 a chydlyniant cymunedol yn heriau sylweddol ac yn flaenoriaeth allweddol i waith y Bartneriaeth, a chydnabyddwyd ei rôl ganolog gan Heddlu Dyfed Powys gyda’r wobr yn cael ei chyflwyno gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cadeirydd Partneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru:

“Bu’r dasg hon yn eithriadol o anodd, a rwy’n falch fod ymdrechion y tîm wedi cael eu cydnabod fel hyn.

“Ers i’r Swyddfa Gartref gyhoeddi eu bwriad i ddefnyddio’r safle ym Mhenalun i gartrefu ceiswyr lloches, roedd yn rhaid goresgyn llu o heriau ar fyrder i allu croesawu pobl oedd wedi profi trawma annirnadwy. Yn greiddiol i gydlynu’r trefniadau yma oedd ymdrechion Partneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru.

“Rwy’n falch fod y tîm, ar ran yr holl bartneriaid, hefyd wedi rhannu awgrymiadau am welliannau, a rydyn ni’n deall y bydd rhain yn cael eu gwreiddio i waith y Swyddfa Gartref yn y dyfodol wrth sefydlu safleoedd o’r fath.”

“Mae’r wobr hon yn dyst i bŵer gwybodaeth leol, empathi a dyfalbarhad, a hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid a ymrwymodd i weithio a’i gilydd i gwrdd â’r her yma.”

DIWEDD 

http://www.wlga.cymru/award-success-for-the-wales-strategic-migration-partnership