Fe brofodd Canolfannau Cymdogaeth Casnewydd, pedair ohonynt i gyd, yn amhrisiadwy yn ystod y cyfnod clo gan gefnogi a chynorthwyo rhai o breswylwyr mwyaf diamddiffyn y ddinas.
Sefydlwyd rhif Rhadffôn i sicrhau fod gan breswylwyr fynediad hawdd at gefnogaeth ac mae timau’r canolfannau wedi dosbarthu dros 800 o barseli bwyd mewn argyfwng. Mae pecynnau gweithgaredd wedi eu darparu ar gyfer preswylwyr iau a hŷn, ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn y maes Iechyd darparwyd bwndeli babi i rieni newydd sy'n ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod clo.
Mae staff y canolfannau hefyd wedi cysylltu â dros 5000 o breswylwyr oedd yn gwarchod eu hunain. Maent wedi darparu gwasanaeth gwirio yn ystod y galwadau hyn, gan gynnig cefnogaeth a gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau partner pan fo angen. Mae cymorth cyffredinol gyda siopa, casglu presgripsiwn, creu cyfeillgarwch a cherdded cŵn wedi ei ddarparu gan atgyfeiriadau i Volunteering Matters Cymru.
Mae grwpiau cymunedol eraill wedi bod yn awyddus i helpu preswylwyr diamddiffyn, gan gynnwys Cymdeithas Cymuned Yemeni Casnewydd, sydd wedi bod yn dosbarthu bwyd i breswylwyr oedd yn hunan ynysu ac Achub y Plant, sydd wedi darparu eitemau hanfodol i deuluoedd, gan gynnwys mynediad i adnoddau digidol. Nododd arolwg yng Nghasnewydd nad oedd gan dros 2,500 o blant fynediad i ddyfais ddigidol neu gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy. O ganlyniad cafodd bron i 800 o ddyfeisiadau eu benthyg i ddisgyblion yn ogystal â 1261 o unedau i ddarparu cysylltiad rhyngrwyd 4G.