Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda banciau bwyd y sir, Trussell Trust a Ravenhouse Trust.
Ar ddechrau’r cyfnod clo, nid oedd nifer o wirfoddolwyr y banciau bwyd oedd yn hŷn ac mewn perygl, yn gallu cefnogi’r banciau bwys yn uniongyrchol, ac roedd heriau cadw pellter cymdeithasol mewn unedau bychain. Yn ogystal â hynny, roedd ceisiadau cynyddol am dalebau bwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cychwyn Cadarn a Chymdeithasau Tai. Roedd rhaid i nifer o asiantaethau cymorth symud i weithio o adref ac roedd hyn yn ei gwneud yn anodd i rai gael gwybodaeth a chymorth yn y ffyrdd arferol, oedd yn cynnwys cau Canolfannau Cymunedol y Cyngor a oedd yn ddull atgyfeirio ar gyfer unigolion i gael mynediad i systemau banciau bwyd.
Ynghyd â banciau bwyd, sefydlwyd nifer o fentrau mynediad gan gynnwys system atgyfeirio digidol - gan adlewyrchu manylion “taleb” sy’n dangos holl wybodaeth sydd ei angen gan fanciau bwyd; tîm trawsadrannol, ymroddgar y cyngor yn gweithio gyda rheolwyr y banciau bwyd, yn gweithredu fel cyswllt rhwng yr unigolyn, asiantaethau a chludiant gyda mesurau diogelu ac ati.
Roedd cymorth hael Reuben Foundation wedi darparu 8 wythnos o gyflenwadau bwyd - £32,000 o fwyd. Mae’r mwyafrif wedi cael eu darparu erbyn hyn, ond mae’r cyflenwadau nad oedd yn gallu cael eu cadw’n lleol wedi cael eu rhoi yng Nghae Ras Chepstow.
Dolen fideo Partneriaeth Cymorth Banciau Bwyd Cae Ras Chepstow/Reuben Foundation a Chyngor Sir Fynwy
https://www.youtube.com/watch?v=5NZQRnBN4eI&feature=youtu.be