Posts in Category: COVI9-19 (Gwirfoddoli - Digidol)

Hwb Cymunedol Sir Benfro (Cyngor Sir Benfro) 

Mae Hwb Cymunedol Sir Benfro yn siop un stop i unrhyw gymorth sydd ei angen yn ystod y pandemig presennol, o help gyda siopa i alwad ffôn cyfeillgar.  Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Benfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llesiant Delta. Mae preswylwyr a fyddai’n hoffi gwirfoddoli yn cael eu cyfeirio at cyfeirlyfr rhyngweithiol ar y we o sefydliadau cymorth cymunedol sydd wedi cofrestru gyda PAVS, neu maen nhw’n gallu gwirfoddoli yn uniongyrchol trwy Gwirfoddoli Cymru.  Mae 94 Grwpiau Cymorth Cymunedol wedi cofrestru gyda PAVS, a dros 600 o wirfoddolwyr wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru. 

Ap Cefnogaeth Gymunedol Torfaen (CBS Torfaen) 

Mae Cyngor Torfaen wedi lansio Ap Cefnogaeth Gymunedol Torfaen  ar 27 Ebrill, 2020 i helpu gyda chofrestriad cyflym a rhwydd gwirfoddolwyr sydd eisiau cynnig eu hamser, a helpu preswylwyr mwyaf diamddiffyn Torfaen i gofrestru ar gyfer cefnogaeth, yn ogystal â’u galluogi i gael y ddarpariaeth fwyaf addas iddynt. Bydd preswylwyr sy’n cofrestru i ddefnyddio’r ap yn gallu gwneud ceisiadau am: gasgliad meddyginiaeth; siopa bwyd, ac eitemau hanfodol eraill, y gwasanaeth cyfeillio, ac ati. Datblygwyd yr ap gan Syncsort, sef yn o bartneriaid technoleg y Cyngor. Bydd yr ap o gymorth i'r Hwb Cymorth Cymunedol a sefydlwyd yn ddiweddar, i weithredu’n fwy effeithiol, a bydd o gymorth arbennig pan mae anghenion preswylwyr yn cynyddu, ac wrth i sgiliau ac argaeledd gwirfoddolwyr newid dros amser.    Mae’r Cyngor, gyda chymorth partneriaid, gan gynnwys Bron Afon ac Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen , yn ogystal â grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n cydlynu ac yn darparu cefnogaeth uniongyrchol.  Mae fersiwn ar-lein o’r ap hefyd, sydd ar gael ar dudalen Covid-19 gwefan y Cyngor i’r sawl nad oes ganddynt fynediad i ddyfais symudol. Os nad oes gan breswylwyr fynediad i’r we, mae modd iddynt ffonio 01495 762200 am gymorth. Mae gan Gyngor Torfaen fwriad i ddefnyddio'r ap yn y tymor hir i gefnogi gwasanaethau gyda chydlynu Gwirfoddolwyr, ar ôl Covid19.

Ein Sir Fynwy (Cyngor Sir Fynwy) 

Mae Tîm Cefnogaeth Gymunedol Cyngor Sir Fynwy yn ‘asesu’r angen’, ac mewn partneriaeth gyda gwirfoddolwyr, maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau cefnogi, megis: casglu a danfon siopa a meddyginiaethau, darparu parseli bwyd a phrydau parod i’r sawl sydd eu hangen, gwasanaethau cyfeillio, ac ati.

Mae cyfrwng digidol https://ourmonmouthshire.org wedi cael ei ddatblygu i gyd-fynd â’r gweithgareddau presennol, a fydd yn cynnwys swyddogaeth bancio amser. Mae dros 1000 o wirfoddolwyr yn weithredol o fewn y sir. Mae’r Timau Datblygu Ardal wedi llunio darlun o ofynion gwirfoddoli ar gyfer pob un o’r 60 + grŵp gweithredu yn y gymuned sy’n cael eu cefnogi gan y cyngor a phartneriaid allweddol i gyfuno ymateb a galw gwirfoddolwyr.

Gyda’n Gilydd dros Gaerdydd (Cyngor Caerdydd) 

Sefydlwyd cynllun Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd, Cyngor Caerdydd ar ddechrau argyfwng COVID-19.  Mae 1,200 nawr wedi cofrestru gyda’r cynllun, sydd wedi gweithredu fel gwasanaeth brocer, i gyfuno pobl sy’n dymuno helpu gyda chyfleoedd gwirfoddoli ar draws y ddinas. Mae Gwirfoddoli Caerdydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda sefydliadau y trydydd sector yn cynnig cyfleuster chwilio ar-lein am sefydliadau a busnesau lleol sy’n danfon nwyddau at y stepen drws, a lle gall breswylwyr gofrestru i wirfoddoli. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu rhwydwaith o sefydliadau angor h.y. sefydliadau cymeradwyedig a sefydledig, i gefnogi y nifer o sefydliadau newydd sy'n cael eu creu mewn ymateb uniongyrchol i bandemig COVID-19.

Gan weithio gyda staff y Cyngor, mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl bwysig wrth baratoi a dosbarthu bwyd a nwyddau hanfodol mewn parseli argyfwng i bobl sy’n profi anawsterau yn ystod y pandemig oherwydd eu bod yn hunan-ynysu, neu oherwydd effaith ariannol yr argyfwng. Mae gan Dîm bwyd y Cyngor ychydig dan 1,200 o wirfoddolwyr ac maent yn dibynnu ar rhwng 10-15 o wirfoddolwyr y dydd i godi, pacio a danfon bwyd.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30