Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ffurfio partneriaeth gydag Ameresco, cwmni gwasanaeth ynni, i nodi ystod o fesurau i leihau allyriadau carbon ar draws ystâd yr awdurdod. Rhagwelir y bydd Cam 1 o’r prosiect yn arbed 675 tunnell o CO2e bob blwyddyn.