Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.
Mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio dull cynllunio lle i ganolbwyntio ar garbon, addasu i newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Bydd y dull newydd hwn yn y dref yn cael ei efelychu mewn 9 tref arall ledled Powys.