Mae Cyngor Sir Benfro wedi datblygu amrywiaeth o ‘Arwyddion datgloi COVID-19’ sydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi creu’r arwyddion sydd yn ymdrin â themâu megis hylendid, cadw pellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb yn rhan o ymgyrch ehangach i sicrhau diogelwch y gymuned wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Mae’r arwyddion dwyieithog wedi bod yn adnodd poblogaidd ar gyfer busnesau lleol yn y sir.