Ers 23 Mawrth 2020, mae 21,595 o alwadau lles wedi eu gwneud gan Swyddogion Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w tenantiaid cyngor.
Cysylltwyd â’r holl denantiaid cyngor o leiaf unwaith ac mae swyddogion yn parhau gydag ail rownd o alwadau lles, er bod ail gychwyn swyddogaethau tai eraill a'r ffaith fod nifer o denantiaid yn dychwelyd i'w gwaith yn effeithio ar hyn bellach. Mae tenantiaid nad oedd modd cysylltu â nhw dros y ffôn wedi derbyn llythyr yn gofyn iddynt gysylltu â’u Swyddfa Dai.
Yn ystod y pandemig mae'r gefnogaeth a gynigiwyd gan Swyddogion Tai y cyngor wedi cynnwys cyngor a chymorth ariannol, cymorth gyda chyflwyno ceisiadau am Gredyd Cynhwysol a Thaliadau Disgresiwn at Gostau Tai, trefnu cynlluniau talu rhent fforddiadwy gyda thenantiaid sydd wedi bod ar ffyrlo ac atgyfeiriadau i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam am barseli bwyd, dosbarthu presgripsiwn a siopa.
Mae swyddogion hefyd wedi hyrwyddo gwasanaethau a allai fod o fudd i denantiaid oedd yn ynysu ac wedi gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor ar unigrwydd, trais domestig, iechyd meddwl ac ymddygiad gwrth gymdeithasol. Roedd swyddogion hefyd yn cynghori ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim ac yn codi ymwybyddiaeth o dwyll i helpu i gadw tenantiaid diamddiffyn yn ddiogel. I rai tenantiaid roedd y galwadau’n golygu unigolyn cyfeillgar y gallant siarad â nhw gan eu bod yn teimlo’n ynysig. Croesawyd y galwadau ac roedd tenantiaid yn eu gwerthfawrogi.