Ar hyn o bryd mae 29 o arweinwyr Autism Leads mewn Awdurdodau Lleol ar draws Cymru sy’n ffurfio rhwydwaith o arferion ac ymrwymiad ar y cyd. Trwy gydol Covid-19, mae’r rhwydwaith wedi parhau i gefnogi ac ymrwymo gyda’u cymunedau awtistig lleol. Rhai enghreifftiau o’u harferion arloesol:
- Cymorth un i un ‘ar y we’ parhaus i oedolion diamddiffyn, neu i’r rheiny gydag anghenion sylweddol ym Mlaenau Gwent.
- Parti Diwrnod VE ar y we fel bod y gymuned yn gallu cadw mewn cysylltiad yn Wrecsam.
- Sir y Fflint wedi darparu llyfrau stori yn egluro Covid-19 i blant bach, yn cynnwys plant awtistig.
- Datblygwyd “cerdyn” i roi gwell mecanweithiau cyfathrebu i bobl awtistig gyda’r gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod clo yn Sir Ddinbych.
- “Fforwm” ar y we i oedolion awtistig ifanc yn datblygu sgiliau bywyd yng Nghaerdydd a’r Fro.
- Dadansoddiad trylwyr o’r “gwersi a ddysgwyd” yn ystod y cyfnod clo, yn arwain at ail-ddylunio ac ail-ddatblygu rhai o’r gwasanaethau yn Nhorfaen.
- Deg “hwb” wedi’u hagor yn ystod y cyfnod clo i gefnogi teuluoedd yn Sir Benfro.
- Ymrwymiad gydag oedolion awtistig a’r rheiny gydag anabledd dysgu trwy gydol y cyfnod clo yng Ngwynedd.
Mae’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol wedi parhau i drefnu cyfarfodydd rhwydwaith Arweinwyr Awtistiaeth Genedlaethol bob chwarter ar y we, ac wedi cyflwyno cyfarfodydd “Hwb” rhanbarthol i annog ymrwymiad cadarn ar draws yr arbenigedd ac i roi cyfle i rannu arfer da ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’r lefelau presenoldeb wedi torri record trwy’r fformat newydd hwn gan fod mwy o Arweinwyr yn gallu mynychu gan nad oes angen neilltuo amser i deithio i’r cyfarfodydd.
Mae’r Arweinwyr yn parhau i chwarae rôl hanfodol mewn lledaenu gwybodaeth gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol yn lleol ac yn cyflwyno polisi ac arweiniad cenedlaethol trwy rwydweithiau lleol ac mewn dull llawr gwlad.,Mae’r rhwydwaith yn parhau i ‘gyfeirio’r’ pobl y maen nhw’n ei gefnogi a chydweithwyr proffesiynol i wefan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Gwybodaeth Coronafeirws (Covid-19) ac i dudalennau Facebook a Twitter.