Mae Cyngor Sir Ceredigion yn sylweddoli bod y cyfnod hwn wedi bod, ac yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i bawb. Nid yw plant na phobl ifanc wedi gallu treulio amser gyda ffrindiau, cyfoedion na staff cymorth fel gweithwyr ieuenctid - staff y mae llawer ohonynt yn ystyried yn oedolion y gallan nhw ymddiried ynddynt. Ceir tystiolaeth gynyddol bod diffyg rhyngweithio o’r fath yn effeithio ar iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc. O ganlyniad, mae'r Cyngor yn paratoi ac yn cynllunio i ailagor darpariaethau wyneb yn wyneb fel canolfannau ieuenctid. Bydd yn gwneud y canolfannau yn ddiogel, addysgiadol ac yn hwyl. Mae’r Canllawiau i Staff yn ddogfen ar gyfer staff sy’n darparu cymorth ac ymyraethau o fewn canolfannau ieuenctid yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, bydd llawer o’r agweddau yn berthnasol i leoliadau teuluoedd ac addysgol eraill ac yn cyd-fynd ag amcanion COVID-19 Cyfnod 3: Addasu a Chydnerthedd Hirdymor y Cyngor.
Dalier sylw: Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf (18 Mehefin 2020) a byddant yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen.