Ymgysylltu er mwyn Newid (E2C) yw Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy, a ymatebodd i sefyllfa Covid-19 yn gyflym drwy drefnu cyfarfodydd wythnosol ar-lein. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod llais pobl ifanc Sir Fynwy yn parhau i gael ei glywed a’i gefnogi.
I ddechrau, roedd E2C yn trafod profiadau, materion ac emosiynau yr oedd ganddynt yn ystod cyfnod cynnar y clo, a gwahoddwyd Dr Sarah Brown (Seicolegydd Clinigol, Seicoleg Gymunedol Gwent, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan) i drafod sut allai pobl ifanc ddatblygu gwytnwch. O ganlyniad, fe wnaeth y bobl ifanc helpu i greu cynnwys ar gyfer straeon dyddiol y Gwasanaeth Ieuenctid ar Facebook ac Instagram, gan gynnwys ‘Dydd Mercher Lles’. Roedd pobl ifanc yn rhan o dreialu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan gynnig gwaith digidol y Gwasanaethau Ieuenctid ar gyfer sesiynau galw heibio, clybiau amser cinio a ieuenctid ar-lein.
Mae E2C wedi cynnal cyswllt gyda Fforwm Rhanbarthol De-Ddwyrain Cymru, ac ar hyn o bryd yn datblygu prosiect Ucan fel rhan o Gronfa Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae gweithio’n rhanbarthol wedi galluogi E2C i rannu profiadau gyda phobl ifanc o ardaloedd daearyddol eraill, gan ddatblygu perthnasau a rhwydweithiau cefnogi, yn ogystal â hyder a hunan-barch.
Yn ddiweddar, mae E2C wedi dechrau cynnal sesiynau holi ac ateb wythnosol gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau, er mwyn trafod materion a nodir gan bobl ifanc, megis iechyd meddwl, cludiant, addysg a blaenoriaethau Sir Fynwy a nodwyd yn yr ymgynghoriad Gwneud eich March Cyngor Prydain.